Ymgyrch i warchod llecyn tawel yn Llŷn

Mae trigolion ardal Llangwnadl ym mhen draw Lŷn wedi dod at ei gilydd i wrthwynebu gais cynllunio i ehangu’r defnydd o borthladd pysgota bychan gerllaw.

Daeth dros 60 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn hen ysgol y pentref yr wythnos ddiwethaf i fynegi eu gwrthwynebiad i gais i ddyblu’r nifer o gychod sy’n cael eu cadw ym Mhorth Colmon.

Fel llecyn tawel, mae’n gyrchfan boblogaidd drwy gydol y flwyddyn i bobl leol sy’n mwynhau llonyddwch y lle, ac mae tua pedwar neu bump o bysgotwyr lleol yn cadw’u cychod yno.

Yn dilyn y cyfarfod nos Iau mae’r ymgyrchwyr eisoes wedi sefydlu gwefan sy’n dwyn y teitl ‘Cymdeithas Gwarchod Porth Colmon’ ac sy’n cyflwyno hanes y llecyn a’i arwyddocâd i drigolion yr ardal.

Cais cynllunio

“Eisio cadw Porth Colmon fel y mae o ydan ni, oherwydd mae o’n llecyn unigryw,” meddai Sian Parri, sy’n cynrychioli Llangwnadl ar gyngor cymuned Tudweiliog.

Mae cais eisoes wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd am newid defnydd hen gwt pysgotwyr yn uned gwyliau hunan arlywol a newid defnydd cae yn storfa cychod.

“Lle bychan ydi o, ac mae’n o’n llawn fel y mae o efo’r cychod sydd yno ar hyn o bryd, ac mi fyddai rhagor o gychod yn difetha tawelwch yn lle,” meddai Sian Parri.

“Mae’n siwr mai cychod pleser fyddai’r rhain ac nid cychod pysgota – a theimlad pobl leol ydi os mai dyna ydach chi’i eisio, ewch i Abersoch a gadewch lonydd i lannau gogleddol Llŷn.”

Pryderon am hawliau mynediad

Pryder ychwanegol gan bobl leol yw fod amheuaeth ynghylch union berchnogaeth Porth Colmon, ac y gallai unrhyw ddatblygiad yno beryglu hawl mynediad y cyhoedd.

“Mae yma hen hanes yn lleol yn mynd yn ôl i 1958 pan wnaeth y perchennog ar y pryd drio cau’r lle,” meddai Sian Parri. “Ac er i bobl leol lwyddo i wrthsefyll hyn bryd hynny, mae rhywfaint o hyd o amheuaeth o ran pwy ydi’r union berchnogion.

“Mae angen i’r mater yma gael ei setlo fel ei fod ar ddu a gwyn fod hawl gan y cyhoedd fynd yno.”

Mewn cylchlythyr i geisio tawelu ofnau pobl leol a gafodd ei ddosbarthu’r diwrnod ar ôl y cyfarfod cyhoeddus, mae’r perchennog Steve Mackreth sydd wedi cyflwyno’r cais yn gwadu’n llwyr bod unrhyw fwriad i gau’r ffordd.

Mae rhagor o hanes Porth Colmon i’w gael ar wefan yr ymgyrchwyr www.colmon.co.uk

o golwg 360 17-2-09