Cais-cynllunio-c09d024246ll-planning-application

C09D/0242/46/LL ADDASU ADEILAD ALLANOL YN UNED GWYLIAU HUNAN ARLWYOL, NEWID DEFNYDD CAE I STORFA GYCHOD, ATGYWEIRIO ODYN GALCH A DARPARIAETH I DDYFRGWN / CONVERSION OF BUILDING INTO SELF CONTAINED HOLIDAY UNIT, CHANGE OF USE OF FIELD INTO BOAT STORAGE AREA, RESTORATION OF LIMEKILN AND PROVISION FOR OTTERS – Porth Colmon, Llangwnadl, Pwllheli, LL538NT
linc i’r cais – Link to the application

Atodiadau – Media items-
p01.pdf

I01.pdf

A01.pdf

Wrth ystyried sylwadau ynghylch ceisiadau cynllunio dim ond materion sy’n ymwneud â chynllunio y gall y Cyngor roi sylw iddynt.

Ymhlith ystyriaethau cynllunio mae:-

Cydymffurfio gydâ’r Cynllun Datblygu
Dylunio
Effaith ar dai cyfagos megis colli llawer iawn o olau neu breifatrwydd
Diogelwch ar y Briffordd
Materion eraill a all fod yn ystyriaethau cynllunio o bwys. (Sylwer – nid oes rhestr swyddogol o’r hyn yw ystyriaeth gynllunio o bwys).
Fodd bynnag, nid ydynt yn cynnwys pethau megis:-

Colli golygfa
Anghydfod ynghylch perchenogaeth tir preifat
Cymeriad yr ymgeisydd
Materion moesol
Colli gwerth ar eiddo
Gellir gwneud sylwadau ar geisiadau cyfredol – ar lein .


When considering representation on planning applications the Council can only take notice of matters which relate to planning. 

Planning considerations will include:-

Compliance with the Development Plan
Design
Effect on neighbouring properties such as severe loss of light or loss of privacy
Highway safety
Other matters which may be material planning considerations. (note:- there is no definitive list of what a material planning consideration).
However, they do not include things such as:-

loss of view
private land ownership disputes
personal character of the applicant
moral issues
loss of value of property
Representations on current applications can be made- on-line .

Llongdrylliad Y Villa 1856 – Shipwreck

Villa 1856

Y stori yw mai llong Sbaenaidd oedd hi yn cario glo o Lerpwl i Havre. Noson y Royal Charter yn 1856 yr aeth y “Villa” ar y creigiau ym Mhorth Colmon a boddwyd un o’r criw. Roedd Thomas Williams, Aelfryn, Tudweiliog yn blentyn pan ddigwyddodd hyn ac ymwelodd a’r ardal drannoeth.
Ni fentren ni y plant fyned yn agos ati am fod y criw oedd arni yn ryw hanner anwariaid, ac yn cario wrth y strap oedd am eu canol gledd mewn gwain.
Aed ati i gladdu’r aelod marw o’r criw ym mynwent Llangwnnadl ond trwy ryw arnryfusedd roedd y bedd yn rhy fyr. Neidiodd un o’r criw i’r bedd ar ben y corff i ofalu ei fod yn mynd i lawr yn iawn. ‘Roedd person y plwyf, wrth lwc, yn ŵr cyhyrog ac fe’i cododd allan. o ‘Ar hyd ben ‘rallt – Elfed Gruffydd


Villa 1856

The story goes, that it was a Spanish ship, carrying coal from Liverpool . Wrecked on the same night as the Royal Charter yn 1856. The “Villa” was driven ashore on the rocks of Porth Colmon, losing one of it’s crew.

An eye witness, Thomas Williams, Aelfryn, Tudweiliog was a boy when he visited the scene the following day. The children wouldn’t venture too close because the crew who were aboard were half crazy. They carried swords in their scabbards. One of the crew members who had died was taken and buried in Llangwnnadl Churchyard. Due to unfortunate measurement, the grave was too small, and one of the crew jumped up and down on the body to make it fit.

Dolenni / Links

Cynllunio-Planning

Cynllunio Ar-lein- http://www.gwynedd.gov.uk/swiftlg/apas/run/wphappcriteria.display?langid=2

Gwynedd track & trace – http://www.gwynedd.gov.uk/swiftlg/apas/run/wphappcriteria.display

Ymgyrch i warchod llecyn tawel yn Llŷn

Mae trigolion ardal Llangwnadl ym mhen draw Lŷn wedi dod at ei gilydd i wrthwynebu gais cynllunio i ehangu’r defnydd o borthladd pysgota bychan gerllaw.

Daeth dros 60 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn hen ysgol y pentref yr wythnos ddiwethaf i fynegi eu gwrthwynebiad i gais i ddyblu’r nifer o gychod sy’n cael eu cadw ym Mhorth Colmon.

Fel llecyn tawel, mae’n gyrchfan boblogaidd drwy gydol y flwyddyn i bobl leol sy’n mwynhau llonyddwch y lle, ac mae tua pedwar neu bump o bysgotwyr lleol yn cadw’u cychod yno.

Yn dilyn y cyfarfod nos Iau mae’r ymgyrchwyr eisoes wedi sefydlu gwefan sy’n dwyn y teitl ‘Cymdeithas Gwarchod Porth Colmon’ ac sy’n cyflwyno hanes y llecyn a’i arwyddocâd i drigolion yr ardal.

Cais cynllunio

“Eisio cadw Porth Colmon fel y mae o ydan ni, oherwydd mae o’n llecyn unigryw,” meddai Sian Parri, sy’n cynrychioli Llangwnadl ar gyngor cymuned Tudweiliog.

Mae cais eisoes wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd am newid defnydd hen gwt pysgotwyr yn uned gwyliau hunan arlywol a newid defnydd cae yn storfa cychod.

“Lle bychan ydi o, ac mae’n o’n llawn fel y mae o efo’r cychod sydd yno ar hyn o bryd, ac mi fyddai rhagor o gychod yn difetha tawelwch yn lle,” meddai Sian Parri.

“Mae’n siwr mai cychod pleser fyddai’r rhain ac nid cychod pysgota – a theimlad pobl leol ydi os mai dyna ydach chi’i eisio, ewch i Abersoch a gadewch lonydd i lannau gogleddol Llŷn.”

Pryderon am hawliau mynediad

Pryder ychwanegol gan bobl leol yw fod amheuaeth ynghylch union berchnogaeth Porth Colmon, ac y gallai unrhyw ddatblygiad yno beryglu hawl mynediad y cyhoedd.

“Mae yma hen hanes yn lleol yn mynd yn ôl i 1958 pan wnaeth y perchennog ar y pryd drio cau’r lle,” meddai Sian Parri. “Ac er i bobl leol lwyddo i wrthsefyll hyn bryd hynny, mae rhywfaint o hyd o amheuaeth o ran pwy ydi’r union berchnogion.

“Mae angen i’r mater yma gael ei setlo fel ei fod ar ddu a gwyn fod hawl gan y cyhoedd fynd yno.”

Mewn cylchlythyr i geisio tawelu ofnau pobl leol a gafodd ei ddosbarthu’r diwrnod ar ôl y cyfarfod cyhoeddus, mae’r perchennog Steve Mackreth sydd wedi cyflwyno’r cais yn gwadu’n llwyr bod unrhyw fwriad i gau’r ffordd.

Mae rhagor o hanes Porth Colmon i’w gael ar wefan yr ymgyrchwyr www.colmon.co.uk

o golwg 360 17-2-09