Croeso

Cymru, Gwynedd a Llangwnnadl

gwlad1Cymru
Penrhyn mynyddig ar ochr orllewinol Ynys Brydain, ac yn wynebu Iwerddon, yw’r wlad a elwir Cymru. Am fil a hanner o flynyddoedd bu’n gartref i bobl neilltuol o ran iaith, arferion a chyfraith, a elwir, yn eu hen iaith eu hunain, Cymry (brodyr), ac yn Saesneg, Welsh (dieithriaid). Drwodd a thro, a hyd at y ganrif bresennol, stori goroesiad yw eu stori, wrth i’r boblogaeth Frythonaidd un ai wrthsefyll neu gymathu Rhufeinwyr, Gwyddelod, Sacsoniaid, Llychlynwyr, Normaniaid a Saeson yn eu tro. Eto, am resymau y gallwn eu trafod, ni thyfodd Cymru erioed yn genedl-wladwriaeth – dim ond rhyw ddynesu at y statws hwnnw am gyfnodau byrion yn ystod yr Oesau Canol. Cyn ei farw trasig yn 1282, fe lwyddodd Llywelyn II (‘Llywelyn ein Llyw Olaf’) i gael gan y Goron Seisnig gydnabod ‘Tywysogaeth’ Cymru; syniad sydd wedi byw trwy’r canrifoedd, ac sydd o hyd yn diffinio Cymru yn gyfansoddiadol. Ddechrau’r 15ed ganrif adferwyd y Dywysogaeth annibynnol am gyfnod byr gan Owain Glyn Dŵr. Yn ôl Deddf a wnaed gan Harri VIII yn 1536, mae Tywysogaeth Cymru wedi ei chorffori’n dragwyddol yn Nheyrnas Loegr. Erys rhannau o Gymru yn wledig ac amaethyddol, ond aeth rhannau eraill yn ddiwydiannol iawn o ddiwedd y 18ed ganrif ymlaen; fe awgrymir yn aml mai hyn, drwy wneud yn bosibl ymfudo mewnol, a sicrhaodd oroesiad yr hunaniaeth Gymreig i’r byd modern. Heddiw, gyda Chynulliad Cenedlaethol yn cwrdd yn y brifddinas, Caerdydd, mae’n debyg fod gan Gymru fwy o ymreolaeth ffurfiol nag erioed o’r blaen. Mae’r dyfodol cyfansoddiadol yn bwnc trafod beunyddiol bron.

gwlad1Gwynedd 
Ers cyn cof bu yng Nghymru dair talaith neu dywysogaeth (pob un â’i rhaniadau llai): Gwynedd (Gogledd), Powys (Canolbarth) a Deheubarth (De). Roedd eu terfynau yn mynd a dod yn ôl llwyddiant tywysogion unigol, ond fel rheol roedd ‘Gwynedd’ yn golygu Gogledd-Orllewin Cymru, sef yn nes ymlaen siroedd Môn, Caernarfon a Meirionydd. (Mae Sir Gwynedd heddiw yn llai, a heb gynnwys Ynys Môn.) Roedd adegau yn ystod y 12-13eg ganrif pan oedd Ymerodraeth yr Angyw neu’r Eingl-Normaniaid yn ymestyn o odre’r Pyreneau hyd at ganolbarth yr Alban. Ond dim pellach nag afon Conwy, diolch i gryfder tywysogion Gwynedd dros ddwy ganrif. Gwynedd oedd yr unig dalaith yng Nghymru’r Oesau Canol i ddilyn polisi cyson o geisio uno Cymru gyfan mewn gwladwriaeth ffiwdal.

 


Cyflwyniad i Llŷn
Llŷn Tirwedd Ysbrydol
Llŷn Natur a Hamdden
Diwylliant a Iaith