Hen Ysgol Llangwnnadl

llangwnnadl1

 

Y GANOLFAN  - Yma roedd yr ysgol tan iddi gael ei chau yn 1949. Erbyn hyn y mae‘n ganolfan gymunedol lle cynhelir pob math o weithgareddau o ddawnsio gwerin i chwarae bingo. Yma hefyd yn Nhŷ’r Ysgol yr oedd Dr Jôs a’i wraig Jini (Jini Ty’r Ysgol) yn byw. Roedd Jini Jones yn artist yn darlunio llyfrau i blant.   Roedd y ddau yn rhai o gymeriadau lliwgar Llŷn.

 

1886

Plant Ysgol Llangwnnadl 1886

llangwnnadl3

Canon Thomas Pritchard yn agor yr hen ysgol fel canolfan cymunedol newydd.