Capel Pen-Y-Graig

penygraig_llangwnnadl

PEN Y GRAIG  - Mae pentref Llangwnnadl ei hun wedi ei leoli ar dir hen fferm Pen y graig, Yn 1863 codwyd capel ar dir y fferm a chodwyd y capel  presennol yn 1901. Roedd yr ysgubor ddegwm yn y beudy tu ôl i’r capel. Pan gaewyd ysgol Llangwnnadl yn 1949, cynhaliwyd ysgol i’r plant ieuengaf yn festri’r capel. Mae John ac Alun wedi canu am hanes y teuluoedd hynny a allfudodd i Ogledd America ar ôl cynnal eu gwasanaeth olaf yng Nghapel Pen y graig cyn cerdded i Borth Golmon a ffarwelio gyda theulu a ffrindiau am byth.

Capel