Porth Colmon

Un o’r porthladdoedd mwyaf dymunol yn Llyn, gyda ffordd gar yn arwain i lawr ato oddi wrth Gapel Penygraig. Wrth ymyl y capel hwn yn y flwyddyn 1825 y cynhaliwyd cyfarfod gweddi dros hanner cant o drigolion yr ardal cyn iddynt ymfudo i’r Amerig.

Yn y pumdegau bu bron i ni golli Porth am byth, ond diolch i frwydro ystyfnig, gorchfygwyd Sais trahaus oedd am rwystro pawb rhag dod i lawr i’r Borth.

cwch

Daliwyd pedwar yma un tro am brynu halen a hwnnw wedi ei smyglo. Fe’u herlidiwyd ac am na allent dalu dirwyon o gannoedd o bunnoedd fe’u lluchiwyd i garchar Caernarfon. Gwnaed apêl ar iddynt gael eu rhyddhau gan fod eu teuluoedd yn hynod o dlawd.
Gwrthodwyd yr apêl ac felly apeliwyd eto ymhen blwyddyn. Aeth Swyddog Tollty Caernarfon i’w gweld ond dim ond tri oedd yno bellach. Roedd un ohonynt, William Williams, wedi teneuo gymaint nes iddo allu dianc rhwng bariau’r ffenestri. Llwyddodd i gyrraedd ei gartref, Cae’r Efail yn ardal Hebron, a chuddiodd ei fam ef yn y fuddai. Pan aeth y perygl heibio hwyliodd i Lerpwl, gan wisgo dillad merch, ac ymfudodd i ddiogelwch America.

porth_colmon

Mewnforid glo, calch a llwch esgyrn i Borth Golmon – mae odyn gerllaw – a rhaid felly oedd cael peilot i ddod â’r llongau i mewn yn ddiogel. Wil Llainfatw wnâi’r gwaith hwnnw.