Yr iaith Gymraeg
Iaith o’r teulu Celtaidd yw’r Gymraeg. Mae’n ddisgynnydd uniongyrchol i’r Frythoneg, a’i pherthnasau agosaf yw Cernyweg a Llydaweg. (Perthnasau pellach yw Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban.) Fe’i siaredir hi heddiw gan tua hanner miliwn o bobl, rhyw 20% o boblogaeth Cymru, ac o ganlyniad i ymgyrchu dyfal a chostus yn y 1960-80au mae iddi statws mewn gweinyddiaeth a llywodraeth. Dros gyfnod o 1,500 mlynedd bu ganddi draddodiad llenyddol eithriadol gyfoethog, a gynrychiolir heddiw gan lenyddiaeth fyw a gwasg gyfnodol. Mae gorsafoedd radio a theledu Cymraeg, ac amrywiaeth o sefydliadau a chymdeithasau i gynnal yr iaith. Ni ellir bod yn gwbl hyderus ynghylch dyfodol unrhyw iaith leiafrif yn y byd sydd ohoni, yn enwedig lle daw ystyriaethau ethnig a gwleidyddol i mewn. Mae’n debyg y dywedai’r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg heddiw, o bwyso arnynt, bod ganddynt siawns go lew o oroesi. Ond mae’r her yn aruthrol. Ni ellir pwysleisio ormod, nid tafodiaith yw’r Gymraeg; iaith ydyw, fel unrhyw iaith arall.