Tirwedd a Natur

Rhoddwyd statws arbennig iawn i 55 milltir o arfordir Dwyfor yn 1974 pan ddiffiniwyd ef yn arfordir treftadaeth ar sail ei gyfoeth hanesyddol,daearyddol, ecolegol, a daearegol. Mae’r arfordir yn ymestyn o Benrhyn Du, Abersoch ymlaen o gwmpas Ynys Enlli ac i’r gogledd hyd at yr Eifl ac ymlaen i Aberdesach. Y bwriad yw gwarchod yr arfordir, i leihau’r gwrthdaro rhwng ymwelwyr, buddiannau cadwraeth a bywyd bob dydd y cymunedau lleol.

blod3

Gwneir gwaith ymarferol ar draethau, llwybrau cyhoeddus, safleoedd picnic a chodir waliau ac arwyddion cyfeirio. Addurnir pob safle ag arwyddion gyda’r frân goesgoch yn amlwg arno.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

Ynys Enlli a Chors Geirch

Gwarchodfeydd Natur Lleol

Mae ardal Lôn Cob Bach, Pwllheli (SH 373347) wedi ei ddynodi gan Gyngor Gwynedd oherwydd ei gwerth ecolegol lleol a’r defnydd hamdden a wneir ohoni. Mae’n gymharol unigryw fel Gwarchodfa Natur Leol am ei bod yn enghraifft o wlyptir a gwastadedd llifogydd o fewn tref. Bwriedir ei hymestyn yn y blynyddoedd sydd i ddod.

pry

Ardaloedd Cadwraeth

Dynodwyd nifer o adeiladau yn Llŷn gyda’r bwriad o’u gwarchod a diogelu naws pentrefi’r ardal. Yn eu plith mae canol pentrefi Aberdaron a rhannau o Lanengan a Llangian sydd o fewn cyffiniau’r eglwys. Rhestrir nifer o adeiladau ym Mhwllheli megis y Wyrcws, Penlan Fawr, ‘Whitehall’, dorau’r harbwr, Hen Neuadd y Dref, y gofeb ar y Cob a’r addoldai.

blod2

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae mwy a mwy o dir Llŷn, yn arbennig ar yr arfordir, yn dod i berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – bron i 3000 o aceri. Mae y dyfodol y tir wedi ei warchod; caiff ei amaethu a rhoddir rhyddid rhesymol i’r cyhoedd i’w grwydro. Yr unig adeilad o’u heiddo sy’n agored i’r cyhoedd yw Plas yn Rhiw.

Safle Ramsar

Mae’r Gors Geirch a Chors Edern sy’n ymestyn o Rydyclafdy i gyfeiriad Edern yn enghraifft ragorol o gorstir calchog a chydnabuwyd eu harbenigrwydd yn 1998 gan gomisiwn Ramsar. (Ramsar – dinas yn Iraq lle’r arwyddwyd cytundeb.)

Ardal Cadwraeth Arbennig Forol

Dynodwyd yr ardal forol, a adnabyddir fel ‘Pen Llyn a’r Sarnau’ ar sail cyfoeth bywyd gwyllt y môr, arbenigrwydd ei haberoedd a’r riffiau ar Sarnau Padrig, Gyfelog a Wallog. Mae Sarn Badrig yn greigiau tanddwr sy’n rhedeg o Frochas ym Meirionydd ac i’r de o Ynys Enlli a’r ddwy arall yn is i lawr ym Mae Ceredigion.

blod

blod4