Minafon

minafon

 

Canolfan i wyr a gwragedd y cylch, am mai yno yr oedd siop a swyddfa’r fentr seithug honno, Cymdeithas Gydweithredol Amaethyddol Llŷn. Pan gychwynnwyd y “Co-op” yn 1913, fe benodwyd  Evan Williams, yn Ysgrifennydd, a phan ddaeth y Gymdeithas i derfyn digyllid yn 1928, fe adawyd yr Ysgrifennydd heb ddim ar ei helw yn llythrennol ond dwy siwt a beic ac ychydig lyfrau.

Un elfen anfydus ym methiant y Gymdeithas oedd y lorri stem (neu dracsion ar lafar) a brynwyd am bymtheg cant o bunnau i gludo nwyddau dros y pedair milltir ar ddeg o Bwllheli, gan mai dyna ben-draw’r tren. Ond yn fuan ar ol ei phrynu fe ddaeth lorri betrol yn beth gweddol gyffredin, a bu’r tracsion yn ei chwt ym Mhenygroeslon heb godi’r un pwff o stem am rai blynyddoedd, nes ei gwerthu fel sgrap am drigain punt.