Hanes

Ystyr Llangwnnadl yw Eglwys Gwynhoedl, ac o hyn y daeth yr enw Llan gwnnadl – sef eglwys Sant Gwynhoedl. Honir iddo fod yn fab i benaeth Cymraeg o’r enw Seithenyn. Hwn, yn ôl y chwedl, fu’n gyfrifol am foddi caer neu faestref Cantre’r Gwaelod sydd nawr o dan y dwr ym mae Cerredigion. Fel ei frodyr, roedd Gwynhoedl yn aelod o Goleg Dunawd, y’m Mangor Iscoed. Roedd un o’i frodyr yn feudwy ar Ynys Enlli.

Yn ôl hen draddodiad daeth teulu yma o Lannor, pentref ger Pwllheli (yn wir mae lle yn Llannor o’r enw Maes-Gwyn), ac fod Gwynhoedl, eu harweinydd, wedi marw cyn iddynt adael. Daethant a’i gorff yma i’w gladdu.

Amaethwyr oedd y cymunedau sefydlog cynharaf ym Mhenrhyn Llŷn, yn y pumed mileniwm CC. Roeddent yn byw bywydau sefydlog, yn hytrach na chrwydrol, yn bugeilio ac yn corlannu anifeiliaid, yn torri a throi’r dywarchen, yn hau eu hadau ac yn cynaeafu eu cnydau yn yr hydref. Mae cyfrinion cylch y tymhorau a chonsyrn am ffrwythlondeb y pridd fel pe baent yn treiddio drwy eu henebion crefyddol, defodol ac angladdol, sy’n adlais mor drawiadol o’r gorffennol yn y dirwedd. Er hyn, prin yw’r dystiolaeth o anheddu, ac o ddylanwad amaethyddiaeth ar y dirwedd Neolithig hon. Gallai’r beddrodau siambr megalithig sydd wedi goroesi, neu’r traddodiad bod rhai’n bodoli ar un adeg, fod yn arwydd o boblogaeth ddwys mewn rhai ardaloedd yn ystod y cyfnod hwn, ond mae’r dystiolaeth mor wasgaredig fel na ellir dibynnu llawer arni i’r perwyl hwn. Ceir beddrod ar fferm y Gromlech, ger y Ffôr; un arall ym Mhont Pensarn ar y codiad tir y tu ôl i Bwllheli ac un arall ar bentir Mynydd Tir-y-cwmwd. Mae dau feddrod ar drwyn Cilan, i’r de o Lanengan, a dau feddrod arall ar ochr ddwyreiniol Mynydd y Rhiw. Mae’r rhain i gyd wedi’u cofnodi ar ochr ddwyreiniol y penrhyn, ar dir uwch i ryw raddau. Cofnodwyd dau feddrod yn nes at arfordir y gorllewin, ger blaenddyfroedd afon Soch. Mae un ohonynt, sef Tregarnedd, wedi diflannu erbyn heddiw; mae’r llall, ar ochr ogleddol Mynydd Cefnamwlch, yn dirnod lleol.

cefnamlwch 1

Mae’r henebion sydd wedi goroesi o’r Oes Efydd Gynnar, tua diwedd y trydydd mileniwm a dechrau’r ail fileniwm, hefyd yn wasgaredig, ond maent yn fwy niferus. Mae’r henebion angladdol, a welir ar ffurf carneddau cerrig, crugiau pridd a ffosydd crwn, yn dangos rhyw gymaint o grynhoi ar dir uchel yr Eifl, yn enwedig ar gopaon y mynyddoedd hynny ac ar fynydd cyfagos Carnguwch. I’r de-orllewin, mae maen hir ar ochr dde-ddwyreiniol Moel Gwynus, 160m uwchlaw’r seilnod ordnans, ac ar y gweundir is ger blaenddyfroedd afon Erch, ac afon Rhyd-hir ymhellach i’r de-orllewin. Ceir meini hir yr ochr arall i’r afon ger eglwys Carnguwch, a dau faen, 170 m oddi wrth ei gilydd, yn Nhŷ Gwyn, i’r gogledd-ddwyrain o frigiad gweladwy Moel y Penmaen. Ceir meini hirion ger afon Erch, rhwng Pencaenewydd a’r Ffôr. Mae casgliad pwysig arall o garneddau ar Fynydd y Rhiw, yn agos at feini hirion a chistgladdiad rhwng Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig ac yrngladdiad ar lethrau gogleddol Mynydd y Rhiw.

10Maen Hir Llangwnnadl

Ceir meini hirion yn Llangwnnadl, ym Maen Hir, Pen-y-groeslon, ac ym mynwent eglwys Sarn Mellteyrn. Cofnodwyd carnedd ag yrngladdiadau ar lethrau Foel Mellteyrn a datgloddiwyd clwstwr o saith ffos gron â beddau canolog a chrugiau wedi eu haredig ym Modnithoedd, ym mhen gorllewinol Botwnnog. Datguddiwyd y claddiadau olaf hyn gan ffosydd olion cnydau ac mae’n bosibl bod mwy o safleoedd tebyg yn agos at ei gilydd, ond eu bod wedi cael eu dileu o’r dirwedd o ganlyniad i weithgaredd amaethyddol diweddarach ar dir is.

Cofnodwyd yrngladdiadau, unwaith eto ar dir is, ym Mhen yr Orsedd, ym Morfa Nefyn, ynghyd â chrug crwn posibl gerllaw. Mae clwstwr o dri chrug o fewn 30m i’w gilydd 50m uwchlaw’r seilnod ordnans ger tŷ Cefn Mine, i’r de o Fodfel.

Mae carnedd a chist ag ochrau cerrig iddi ar y llwyfandir, 340m uwchlaw’r seilnod ordnans, ychydig yn is na chopa Carn Fadryn, ac mae carnedd bosibl yn is i lawr ac i’r de o gôn trawiadol Garn Saethon 165m uwchlaw’r seilnod ordnans.

Mae llociau aneddiadau, sy’n amrywio o ran cadernid eu hamddiffynfeydd, ac aneddiadau cylchoedd cytiau amgaeedig neu agored, yn arwyddion mwy pendant o ffermydd o’r cyfnod cynhanesyddol diweddarach yn nhirwedd Llŷn. Er hyn, mae mwy ohonynt i’w gweld ar dir ymylol ac ar dir uchel, lle mae mwy o siawns i dystiolaeth oroesi. Yn hafau sych 1989, 1990 a 2006 cofnodwyd nifer o lociau newydd ar ffurf olion cnydau ac olion crasu. Nid oedd unrhyw olion eraill wedi goroesi uwchben y ddaear gan fod canrifoedd o aredig wedi dileu’r dystiolaeth.

Ychydig o waith cloddio sydd wedi’i wneud yn yr aneddiadau hyn, ac ychydig iawn o dystiolaeth o’r gyfundrefn ffermio sydd wedi dod i’r amlwg. Un eithriad pwysig yw’r lloc consentrig ffos ddwbl sydd ar bentir bychan uwchben afon Soch yn Sarn Mellteyrn. Mae’r anheddiad yn rhychwantu diwedd yr ail fileniwm CC a dechrau’r mileniwm cyntaf CC. Mae tystiolaeth paill yn awgrymu amgylchedd glaswelltir agored â gwenith a haidd yn cael ei dyfu yn y cyffiniau.

Mae’r casgliad dwysaf o ffermydd bychain sydd wedi goroesi o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar ac o ganrifoedd cynnar y Rhufeiniaid, i’w weld ar lethrau’r mynyddoedd ithfaen sy’n ymestyn o’r Eifl yn y gogledd i Garn Boduan yn y de-orllewin. Ceir grwpiau cnewyllol a chytiau crwn unigol ar y llethrau sy’n wynebu’r môr yng Ngallt Bwlch a rhwng Llithfaen a Phistyll. Mae cytiau unigol gwasgaredig a grŵp amgaeedig cnewyllol heb fod yn bell, ar lethrau sy’n wynebu’r de-ddwyrain islaw fferm y Bwlch yn yr un ardal, tua 200m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae’r aneddiadau hyn ar dir a oedd yn ddigon isel i’w ffermio, ond a oedd hefyd mewn man cyfleus i allu pori’r ucheldir yn yr haf.

Mae pedwar anheddiad ar ddeg ar y llethrau deheuol a de-ddwyreiniol, i’r de o Lithfaen a Phistyll, tua 150m uwchlaw’r seilnod ordnans, fwy neu lai, yn dilyn y gyfuchlin o Foel Gwynus i Foel Tŷ Gwyn, Cerniog, Mynydd Nefyn a llethrau isaf Garn Boduan ac yn edrych dros dir gwastad Boduan ac afon Rhyd-hir. Mae deg o’r aneddiadau hyn yn gnewyllol ac amgaeedig a gallwn fod yn sicr mai olion ffermydd bychain sefydledig o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar a’r cyfnod Brythonig-Rufeinig yw’r rhain. Mae’r ffermydd bychain hyn mewn sefyllfa dda i allu manteisio ar drawstoriad o dirwedd amrywiol sy’n cynnwys amaethu âr a magu stoc, ac yn y cyd-destun hwn, dylid ystyried llethrau uchel anhydrin y mewnwthiadau igneaidd fel adnodd yn hytrach na rhwystr.

trer ceiri3Tre’r Ceiri

Mae dwy amddiffynfa fawr iawn â waliau cerrig i’w gweld yn yr ardal hon, ac mae’r ddwy’n cyfoesi’n fras â’i gilydd. Yn y pen gogleddol, saif Tre’r Ceiri ar gopa mwyaf dwyreiniol yr Eifl, 480m uwchlaw’r seilnod ordnans. Yn y pen deheuol, mae Garn Boduan yn codi uwchben Nefyn a’r gwastadedd arfordirol i 270m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae gan y ddwy fryngaer amddiffynfeydd helaeth a chadarn a gwelir tystiolaeth amlwg o anheddiad cylch cytiau o fewn eu rhagfuriau. Yn Nhre’r Ceiri mae dilyniant cronolegol i’w weld lle mae tai crwn mawr â waliau cerrig wedi cael eu disodli gan unedau llai wedi eu rhannu’n gydrannau. Ceir tystiolaeth hefyd bod gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio wedi’i wneud i ran o’r rhagfur yn ystod yr ail ganrif OC. Gellid dadlau bod y caerau hyn, ar dir uchel, yn gysylltiedig â rheoli stoc a phori yn ystod yr haf, yn enwedig oherwydd y perygl y gallai gwartheg gael eu dwyn yn ystod misoedd yr haf, a chan fod y tiroedd uchel hyn, yn ôl cofnodion hanesyddol, yn cael eu defnyddio fel tir pori yn ystod y canrifoedd diweddarach.

garnmadrynGarnfadryn

Mae’n bosibl bod cyd-destun tebyg yn ardal Carn Fadryn, Garn Bach a Garn Saethon, sy’n 370m, 280m a 220m yn y drefn honno. Ar Garn Fadryn ceir llwyfandir helaeth, ar uchder o 340m, sy’n cael ei amddiffyn gan ragfuriau cerrig. Mae cylchoedd cytiau unigol, gwasgaredig ar lethrau isaf Carn Fadryn ac yn y cyfrwy rhyngddi hi a Garn Bach. Ceir grŵp gwasgaredig arall ar lethrau de-ddwyreiniol Garn Bach. Mae cylchoedd cytiau cnewyllol, amgaeedig ac agored yn ffurfio ffermydd ar y tir gwastatach sy’n edrych dros ochr orllewinol ceunant Nanhoron.

hillfortmap

 

Ceir llociau amddiffynnol ym mhen gogleddol Mynydd y Rhiw, ar doriad yn y llethr ar ochr dde-ddwyreiniol yr hobgefn ac, wrth i’r tir godi eto, ceir trydedd fryngaer, Creigiau Gwinau, ar fewnwthiad basalt ar gopa Mynydd y Graig. Mae nifer o lociau aneddiadau crwn a grwpiau o gylchoedd cytiau cnewyllol ar y llethrau de-orllewinol a de-ddwyreiniol uwchlaw’r cyfrwy rhwng pen deheuol Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig a stribed o gylchoedd cytiau unigol a gwasgaredig ar lethrau de-ddwyreiniol serth Mynydd y Graig, yn edrych allan dros Borth Neigwl a Bae Ceredigion. Roedd Mynydd y Rhiw a Mynydd y Graig yn ucheldir pori yn ystod y canrifoedd diweddarach, ac ni fyddai’n afresymol awgrymu bod anheddiad o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar yn gwerthfawrogi’r dirwedd honno am yr un rheswm.

Bryngaer ddeuglawdd gymharol fechan, ar fryn llyfngrwn isel, ond amlwg yn lleol er hynny, sy’n codi o lwyfandir Aberdaron, 146m uwchlaw’r seilnod ordnans, yw Castell Odo. Cafodd yr amddiffynfeydd eu had-drefnu a’u hadnewyddu droeon. Mae ei leoliad yn awgrymu mai ei brif swyddogaeth o bosibl oedd bod yn ganolbwynt arglwyddiaeth a rheolaeth leol neu ranbarthol. Er yr ystyriaethau gwleidyddol strategol, mae’r gaer wedi’i lleoli rhwng tir amaethyddol ffrwythlon y gwastadedd a gweundiroedd gwlyb helaeth Rhoshirwaun, a oedd yn cael eu defnyddio, yn yr oesoedd cynnar, i ddibenion pori a chasglu tanwydd, ond fawr ddim arall.

Yng nghyrion de-orllewinol penrhyn Llŷn ceir cylchoedd cytiau unigol a gwasgaredig ar dir creigiog uchel Mynydd Anelog, Mynydd Mawr, Mynydd Bychestyn a Phen y Cil sy’n ffinio ar lwyfandir amaethyddol Uwchmynydd. Canrifoedd o amaethu âr dros arwynebedd eang yw’r rheswm yn ddi-os am y diffyg tystiolaeth yn nhiroedd amaeth Aberdaron.

Mae’r dystiolaeth gynharaf o brofiad crefyddol yn nhirwedd Llŷn i’w gweld yn henebion y cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd Gynnar. Mae tua phymtheg o feini hirion yn ardal yr astudiaeth. Ceir clwstwr ger glannau afon Erch, dau faen, 180m oddi wrth ei gilydd ym Mhenprys, Llannor a chasgliad gwasgaredig yn ymestyn at ben de-orllewinol y penrhyn. Mae’n amhosibl dweud beth oedd swyddogaeth y meini hyn. Gallai rhai fod yn allgreigiau neu’n arwyddbyst ar gyfer cyfadeiladau gweithgareddau defodol helaethach, nad ydynt i’w gweld mwyach. Gallai eraill fod yn gysylltiedig â chladdu. Mae’r rhan fwyaf yn fynegiant o hen hen hanes yn y dirwedd. Nid oes cylchoedd cerrig pendant na ‘hengorau’ arglawdd crwn yn yr ardal, er bod awgrym wedi’i wneud y gallai lloc ffosog crwn, a ddarganfuwyd o’r awyr fel ôl cnwd ac a gadarnhawyd gan arolwg geoffisegol, yng Nghwmistir, rhwng Edern a Thudweiliog, fod yn lloc defodau o’r cyfnod cynhanesyddol cynnar.

Eglwys Gwynhoedl  Eglwys Llangwnnadl

Mae deg beddrod siambr o’r cyfnod Neolithig wedi’u cofnodi yn yr ardal dirwedd, ond nid yw pob un wedi goroesi. Mae beddrod ar fferm y Gromlech, ger y Ffôr, unwaith eto ger afon Erch ac ym Mhont Pensarn, heb fod ymhell o’r fan lle mae afonydd yn dod at ei gilydd yn y Pwll, ym Mhwllheli. Ceir beddrodau ar drwyn Cilan ac, yn bwysig iawn, ar lethrau dwyreiniol Mynydd y Rhiw, islaw’r ffynhonnell bwysig o graig graen mân a ddefnyddid i wneud bwyeill Neolithig. Er eu bod yn lleoedd claddu, ac yn cael eu disgrifio fel beddrodau, y ffordd orau o ystyried yr henebion hyn yw fel canolbwynt mynegiant crefyddol lle’r oedd marwolaeth yn cael ei chydnabod fel rhan o gylch bywyd. Roedd hynny’n ystyriaeth bwysig i amaethwyr. Mae claddedigaethau’r canrifoedd diweddarach yn henebion caeëdig, ac mae’n fwy amlwg mai beddau ydynt.

Mae’n anodd iawn dynodi lleoliad yr eglwysi Cristnogol cynharaf ar benrhyn Llŷn, ac fel sawl agwedd ar y Canol Oesoedd Cynnar, mae’n anodd eu dehongli gan nad oes tystiolaeth uniongyrchol ar gael. Gellir disgrifio cymeriad eglwysi cynnar a’u trefniadaeth, mewn sawl achos, fel eglwysi lled-fynachaidd neu gymunedau ‘clas’. Nid oeddent yn rhan o system blwyfol eto, ond roeddent yn gweithredu ar linellau cymunedol. Mae’r clas (term diweddarach) yn disgrifio ystod a math eang iawn o eglwys, yn amrywio o gymunedau pwysig a dylanwadol Aberdaron a Chlynnog Fawr a’u canghennau yn Llŷn, i eglwysi bychain yn cael eu rhedeg gan gymuned leol heb unrhyw ddylanwad na budd y tu allan i ffiniau’r drefgordd. Er enghraifft, gallai eglwys glas ddod i fodolaeth pe bai pennaeth rhydd-ddaliadol tylwyth, â chydsyniad ei etifeddion a sêl bendith y brenin neu’r arglwydd, yn trosglwyddo’i hawliau yn nhir y gymuned er budd eglwys, drwy ei ffurfio a’i chynnal. Byddai’r rhenti a’r tollau arferol a fyddai’n ddyledus i’r brenin neu’r arglwydd yn cael eu trosglwyddo wedyn er mwyn cynnal a chadw’r eglwys. Byddai’n rhaid i un o’r gymuned fod yn offeiriad a byddai pennaeth y teulu, boed yn glerigwr ai peidio, yn cael ei alw’n ‘Abad’. Mewn senario arall, gallai’r brenin neu’r arglwydd roi tir ar gyfer adeiladu a chynnal eglwys ac, efallai, sefydlu aelod iau o’r teulu neu berthynas i fod yn gyfrifol am yr eglwys honno. Yn y naill achos a’r llall, ni fyddai’r eglwys na’i chymuned yn gorfod talu trethi brenhinol. Roedd rhai atodion a hawliau’n deillio o hyn. Roedd gan y gymuned, y claswyr (y ‘mynachod’), fudd breintiedig ac etifeddadwy yng ngwaddolion tiriog yr eglwys, yr abadaeth. Roedd noddfa’n ymestyn o’r eglwys ac yn darparu amddiffyniad i’r rhai hynny oedd ei angen. Mewn un achos a gofnodwyd, ym 1114, roedd Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr, arglwydd Deheubarth, yn cael ei erlid gan wŷr Gruffudd ap Cynan, a chymrodd loches yn eglwys Aberdaron. Anfonwyd gwŷr Gruffudd i’w lusgo oddi yno ond safodd Aberdaron yn gadarn ‘ac ny adawd pzela dyeid ywlad llygru nawd yr eglwys’ (Brut y Tywysogion, Peniarth MS, 20 sa.1112).

anelog

Canfuwyd dau faen coffa pwysig o’r chweched ganrif yn Anelog, ger Aberdaron, ac arnynt arysgrifau yn dynodi ‘yma y gorwedd Senacus, yr offeiriad, gyda thyrfa o frodyr’, ac ‘yma y gorwedd Veracius, yr offeiriad’. Mae’r arysgrifau’n defnyddio prif lythrennau Rhufeinig â seriffau, llythrennau dyblyg a marciau cywasgu yn arddull dynodwyr beddau sydd i’w gweld mewn llawer o drefi Taleithiau Gorllewinol diweddar y Rhufeiniaid, sy’n dangos adnabyddiaeth, o leiaf, o rai agweddau ar Gristnogaeth gyfoes y cyfandir.

Gallwn fod bron yn sicr mai eglwysi pren oedd eglwysi cynnar Llŷn. Mae’r dystiolaeth adeileddol gynharaf o ddefnyddio cerrig sydd wedi goroesi yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif. Eglwys Aberdaron, â’i drws bwaog Romanésg, mewn tri dull, o’r 12fed ganrif, yw’r enghraifft orau, er bod llawer o ychwanegiadau ac addasiadau wedi’u gwneud dros y canrifoedd. Mae cryn bosibilrwydd bod yr eglwysi hynny lle gellir nodi cysylltiad â chlas wedi eu hadeiladu ar leoliad eglwys gynharach.

drws_eglwys_aberdaron Drws Eglwys Aberdaron

Yn ystod diwedd y 12fed ganrif a dechrau’r 13eg ganrif roedd mudiad diwygio a oedd yn ystyried bod yr hen eglwysi clas wedi dirywio a mynd yn hen ffasiwn o’u cymharu â’r urddau cyfandirol a oedd yn ennill tir yng Nghymru a Lloegr. Cafodd llawer o’r cymunedau clas eu hannog neu eu perswadio i ildio’u hawliau yn yr abadaeth i gymunedau canonau Awstinaidd. Dewiswyd yr Awstiniaid gan fod eu rheolaeth hyblyg yn caniatáu iddynt ymgymryd â chyfrifoldebau plwyfol, fel y gwnâi’r offeiriaid ymhlith y claswyr. Roedd cymunedau clas eraill fel pe baent yn diflannu, gan adael yr eglwys yn nwylo rheithor o fewn strwythur esgobaethol. Yn ymarferol, gwnaethpwyd consesiynau i’r claswyr ac i ddeiliaid newydd yr eglwys. Unwaith eto, Aberdaron yw’r enghraifft gliriaf yn Llŷn. Cadwodd claswyr Aberdaron eu hawliau personol a’u hawliau perchnogaeth, rhyddfreiniwyd eu tenantiaid caeth a rhoddwyd rhagor o dir brenhinol ar y tir mawr yn rhodd gan Dafydd ap Gruffydd, Arglwydd Cymydmaen.

Mae enghraifft arall bwysig yn cyfeirio at Cadwaladr ap Gruffudd ap Cynan yn rhoi eglwys Nefyn, yn y 1170au, neu o gwmpas y dyddiad hwnnw, yn rhodd i abaty Awstinaidd Haughmond. Mae rhai arwyddion sy’n awgrymu mai eglwys glas oedd yr eglwys yn wreiddiol, ac mae hyn yn arwain at y posibilrwydd nad oedd Nefyn wedi’i sefydlu fel maerdref gymydol cyn rhoi’r eglwys yn rhodd i abaty Haughmond.

Rhwng y 12fed ganrif a dechrau’r 16eg ganrif daeth eglwysi cerrig yn rhan bwysig a gweledol o dirwedd y Canol Oesoedd. Roedd materion yn ymwneud â deiliadaeth i’w hystyried hefyd. Roedd trefgordd Llannor â’i phum pentrefan gwasgaredig yn naliadaeth Beuno Sant, hynny yw, Clynnog Fawr. Roedd Carnguwch hefyd wedi dod yn rhan o gylch dylanwad Clynnog. Roedd gan Esgob Bangor lawer o dir ac eiddo ledled Gwynedd. Yng nghantref Llŷn roedd yr Esgob yn cadw maenordy a thiroedd demên yn Edern. Ef hefyd oedd landlord trefgorddau Llaniestyn, Abererch, Llangwnnadl, Penrhos, Llanbedrog ac Edern ei hun.

Mae manylion sydd wedi goroesi o’r 12fed ganrif i’w gweld yn amlwg yn Aberdaron a hefyd ym Mhistyll. Mae’r gwaith maen gweladwy cynharaf yn Llannor yn dyddio o’r 13eg ganrif, ac yn cynnwys yr adeiledd un siambr cyfan cyn ychwanegu tŵr yn y 15fed ganrif a chyntedd a chapel modern. Mae’n rhaid mai hon oedd yr eglwys fwyaf yn Llŷn yn ei chyfnod. Mae gwaith sy’n dyddio o’r 13eg ganrif yn Llangian hefyd yn y pen gorllewinol, ac mae gwahaniaeth pendant iawn rhwng gwaith y cyfnod hwnnw ac estyniad o’r 15fed ganrif. Yn yr un modd, mae gwaith maen o’r 13eg ganrif wedi goroesi yn Llaniestyn yn y pen gorllewinol, a ymestynnwyd tua’r dwyrain tua diwedd y 13eg ganrif.

Digwyddodd y gwaith mwyaf o bosibl, fodd bynnag, tua’r flwyddyn 1500. Adeiladwyd eiliau newydd yn eglwysi Llaniestyn, Llanengan, Abererch ac Aberdaron nid nepell o’r adeileddau estynedig blaenorol, ac adeiladwyd arcedau o fwâu pedwar-canolbwynt i’w cysylltu. Yn Llangwnnadl, ar adeiledd llawer cynharach, adeiladwyd dwy eil ychwanegol, i’r gogledd ac i’r de o’r canol cynnar yn y 1520au, ac yn y 1530au ffurfiwyd tri bwa pedwar-canolbwynt yn y waliau.

2 Eglwys Llangwnnadl

Mae’r arddull yn yr eglwysi hyn sy’n dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif a dechrau’r 16eg ganrif yn sythlinol gan mwyaf, ac eithrio Llaniestyn sydd wedi cadw fersiwn o arddull gynharach, ffenestr lansed-triphlyg, yn y ddau dalcen dwyreiniol. Yn ystod y cyfnod hwn, defnyddid gwahanol arddulliau toi, er enghraifft cyplau trawstiau croes, bwa cleddog, wedi’u cryfhau weithiau ag ategion gwynt a phwyslathau ar ogwydd. Mae enghreifftiau da i’w gweld yn Llangian, Llanengan, Pistyll a Llangwnnadl, ac mae rhai wedi’u hatgyweirio neu eu hadfer.

Llandudwen1

Eglwys Llandudwen

Mae eglwys Llandudwen yn eglwys ddiddorol. Cafodd ei hailadeiladu yn yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif ar seiliau canoloesol, ac mae’n cynnwys ffenestri pyst cerrig sgwâr â mowldin ofolo. Mae pedair ar ddeg o’r wyth ar hugain o eglwysi plwyf yn ardal yr astudiaeth wedi cael eu dymchwel a’u gadael fel adfeilion neu eu hailadeiladu ar yr un safle yn ystod y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Mae eglwys Deneio, yn agos at lys tybiedig maerdref Afloegion wedi mynd yn ddim mwy nag adfail o waliau isel.

Adeiladwyd eglwys newydd ar safle newydd yng nghanol Pwllheli yn y 19eg ganrif ac fe’i hailadeiladwyd eto ym 1887. Ailadeiladwyd eglwys Sant Pedr yn ei Gadwynau ym Mellteyrn ar yr un safle, ond mae hithau’n adfail erbyn hyn. Mae llawer o’r eglwysi o’r 19eg ganrif sydd wedi cymryd lle rhai cynharach yn gysyniadau Fictoraidd soled o themâu canoloesol amrywiol, fel y gwelwn, er enghraifft, yn Edern a Thudweiliog. Dwy eglwys anarferol yn y categori hwn yw’r eglwys Romanésg rystig a adeiladwyd yn lle eglwys Romanésg wreiddiol Hywyn Sant yn Aberdaron ac eglwys Gwynin Sant yn Llandygwnning.

Hybwyd twf Ymneilltuaeth grefyddol yn niwedd y 18fed ganrif gan huodledd a brwdfrydedd yr arweinwyr. Un o’r efengylwyr hynny a daniai’r cyfarfodydd mawr oedd John Elias, a anwyd yn Abererch. Roedd angen adeilad o ryw fath ar gyfer y cyfarfodydd llai a gynhelid mewn cymunedau unigol yn dilyn y cyfarfodydd mawr hyn. Cafodd croglofftydd ac ysguboriau eu gosod, neu eu rhoi’n rhydd i’r diben. Wrth i’r mudiad a’r momentwm gynyddu mewn cymunedau a oedd wedi mynd yn rhy fawr i’r ystafelloedd a oedd yn cael eu rhentu, cymerwyd camau i gael adeiladau mwy addas â mwy o le. Un o’r capeli cynharaf i’w ddefnyddio, ac sydd wedi goroesi hyd heddiw, yw Capel Newydd, Nanhoron. Mae Capel Newydd yn debyg i ysgubor, ac mae’n ddigon posibl mai ysgubor ydoedd cyn iddo gael ei ddefnyddio fel capel. Nid oedd cael tir ar gyfer capel anghydffurfwyr bob amser yn hawdd, ac nid oedd y boneddigion bob amser yn bleidiol i Anghydffurfwyr. Fodd bynnag, roedd cefndir Piwritanaidd teulu Nanhoron yn etifeddiaeth a barhaodd. Roedd Capten Timothy Edwards Nanhoron yn gymwynaswr a daeth ei wraig, Catherine, yn aelod ar ôl marwolaeth ei gŵr. Roedd Capel Newydd (Annibynwyr) ar gyrion tir comin, ac ym 1782, adeiladwyd capel arall ar gyfer y Methodistiaid Calfinaidd o fewn y tir comin yn y Nant, dafliad carreg i ffwrdd.

capelnewydd Capel Newydd Nanhoron

Adeiladwyd Capel Annibynwyr yn Nhudweiliog tua diwedd y 1820au i lawr y ffordd o Frynodol a heb fod ymhell o eglwys y plwyf. Mae’r adeilad hwn hefyd yn debyg iawn i ysgubor neu adeilad amaethyddol ac mae yno dŷ ar gyfer y gweinidog, wrth ymyl y capel ac ar yr un llinell. Yn ystod ail chwarter y 19eg ganrif adeiladwyd capeli Anghydffurfiol mwy i ddal cynulleidfaoedd mwy. Mewn pentref bychan fel Aberdaron roedd tri chapel wedi eu codi cyn 1890 – yr Annibynwyr, y Methodistiaid Calfinaidd a’r Wesleaid. Roedd capeli’n cael eu cynllunio erbyn y cyfnod hwn, a chynlluniau clasurol oedd y rhai mwyaf poblogaidd at ei gilydd. Nid oedd cynlluniau Gothig Fictoraidd mor boblogaidd, ond maent i’w cael. Mae gan Gapel Nebo, yn y Rhiw, er enghraifft, a ailadeiladwyd ym 1876 ffasâd cynnil, ond Gothig er hynny. Mae’r un peth yn wir am Gapel Peniel yng Ngheidio, yn union yn ymyl yr Eglwys sydd wedi ei hadnewyddu yno. Mae’r eglwysi hynny sydd ag elfennau clasurol i’w dyluniad yn cynnwys motiffau cylchol, â rhai amrywiadau, a threfniant arferol o agoriadau ar y cyfan, o leiaf tan ddiwedd y ganrif pan ddechreuwyd adeiladu capeli mwy fyth â dyluniad mwy beiddgar. Mae elfennau cyffredin ail hanner y 19eg ganrif yn cynnwys bwâu hanner crwn mawr yn codi o abaci ar bilastrau tal ar ran helaeth o ffasâd y talcen. Mae’r bwa fel ffrâm i ddwy ffenestr dal â phennau crynion, ac uwchben y rhain mae math o fowld capan ffug. Saif dau ddrws pâr â phennau crynion y tu allan i’r ffrâm o bobtu’r ffasâd. Mae’r trefniant hwn ac eraill i’w gweld yn aml, ac mae’n debyg mai gwaith penseiri lleol ydyw. Mae’r thema bwa crwn a ddisgrifiwyd uchod i’w weld yr un fath yn union mewn mannau eraill, er enghraifft yng Nghapel Berea, Efailnewydd ym 1872, Bethania ym Mhistyll ym 1875, Bryn Mawr ym 1877 a Salem, Sarn Mellteyrn ym 1879.

hebron Hen Capel Hebron

 

 

Mae’r eglwys yn Llangwnnadl yn ymroddedig i Gwynhoedl, un o Seintiau cynharaf  Llŷn, a oedd yn hyn na St. Beuno, a sefydlodd Clynnog Fawr, a Phistyll.Uwch ei ben yn yr eglwys roedd St Deiniol, a sefydlodd Bangor Fawr, a Eglwys Gadeiriol y’r Egobaeth. Tan yn ddiweddar cadwyd y garreg a osodwyd uwch ei fedd (yn Llannor) mewn amgueddfa yn Rhydychen. Heddiw mae’r garreg yn ol yn Llŷn, ym Mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog, o ganlyniad i ymdrechion Cyfeillion Llŷn.

Pa fodd bynnag, Mae yn yr eglwys garreg arall, a gysylltir a Gwynhoedl, sydd hefyd yn cael ei chysidro yn garreg fedd iddo. Cafodd ei chanfod pan yn adnewyddu’r eglwys yn 1940, pan dynnwyd y plaster oddi ar y waliau. Mae’r garreg i’w gweld yn wal ddeheuol y’r eglwys, ac arni mae croes geltaidd wedi ei thorri (ring cross). Roedd y groes yn sicr wedi ei phaentio yn wreiddiol, gan fod olion o liw coch dal yn weladwy. Yn ol haneswyr, y mae’r garreg yn dyddio’n ol i’r flwyddyn 600 O.C.

 

Can mlynedd yn ôl ‘roedd porthladdoedd bychain Gwynedd yn orlawn gyda llongau hwyliau a adeiladwyd yn lleol, llongau’n hwylio’r glannau ac yn hwylio ar led. Ym mhentrefi megis Moelfre a Niwbwrch, Nefyn a Chriccieth, ‘roedd bron pob bwthyn yn aelwyd i genedlaethau o forwyr; ‘roedd Amlwch a Phorthmadog, Bermo a Phwllheli, a phorthladdoedd llechi’r Fenai, Porthladd y Penrhyn,Y Felinheli a Chaernarfon yn debyg iawn i gymunedau morwrol Scandinafia a Gogledd America.

llong

Cafodd y sgwneriaid tri mast prydferth, a ddaeth o iardiau Porthmadog, iotiau Môr yr lwerydd fel eu gelwid, enw da iawn yn y fasnach lechi i borthlaeldoedd yr Elbe a Scandinafia a masnach bysgod Newfoundland a Labrador, ac hefyd am gludo cerrig ffosffad, coed a phob math o Iwythi o Dde America, Y Caribi, a Môr y, Canoldir a Chulfor y Ffindir. A’r un modd ‘roedd enw ardderchog I longau haearn Amlwch, o Rio Grande do Sul a Porto Alegr, i Hamburg, aTwrku, ac o Peiotas i Fredrikstad. Y cysylltiad a’r Iwerddon a’r fferi a fu’n gyfrifol am dwf llongau a thraddodiad morwrol Caergybi; mae straeon dewder y Tara a’r Scotia mewn dau ryfel byd yn enghreifftiau o’r cyfoeth o hanes sy’n perthyn i ‘Longau’r Dre’.

belford

Y barc Ordovic, 875 tunnell, oedd y llong goed fwyaf a adeiladwyd yn lleol, yn y Felinheli yn 1878; ond bu llawer iawn o longau mawr coed enwog iawn o arfordir dwyreiniol Canada a’r Unol Daleithiau, ddaeth i ddwylo perchnogion a rheolwyr o Wynedd yn y ganrif ddiwethaf.

stuart

 Llongdrylliad Y Stuart porth Ty Mawr 1901

A dyna gip olwg yn unig ar etifeddiaeth sy’n ymestyn o ddyddiau’r Seintiau Celtaidd a Gwyr Llychlyn, a chestyll Edward I wedi sefydlu yn agos i’r mor, a dyddiau’r môr-Iadron a’r smyglwyr ar arfordir lle bu llu o longddrylliadau enwog a llawer enghraifft o ddewder anhygoel dynion y badau achub. 

mv helvetia

MV HELVEYIA  131 T, cwmni Monks, Hall Cyf 1892-1905

Rhedodd i lan yn Porthsgadan 31-10-1911, suddodd 11-11-1911  ar tow!

 

trafnidiaeth

tir-gwenithCoets ‘bach’ Tir Gwenith, yn Tudweiliog 1896

coets-tocia-1896Coets Tocia 1896

aberdaron_3

Mynydd y Rhiw

Yn y 1950au clustnodwyd tyllau cloddio bas ym mhen gogleddol llethrau Mynydd y Rhiw fel canlyniad cloddio am siâl graen mân a ddefnyddid i wneud arfau, yn enwedig bwyeill, yn ystod y cyfnod Neolithig. Diffiniodd ymchwiliad pellach yn 2005 a 2006 ardal gloddio ehangach yn ymestyn am 400m. Awgrymodd gwaith dyddio radiocarbon fod y gwaith cloddio hwn yn digwydd yn ystod y pedwerydd a’r trydydd mileniwm CC. Mae’n bosibl mai’r broses hon o gloddio a chynhyrchu yw’r gweithgaredd diwydiannol cynharaf yn Llŷn.

Penrhyn Du Roedd pobl yn gwybod bod plwm ar drwyn Penrhyn Du ers dechrau’r 18fed ganrif o leiaf. Mapiwyd angorfeydd Ceiriad a Thudwal gan Lewis Morris rhwng 1737 a 1748. Nododd leoliad y gwaith plwm a chofnododd enw cilfach gyfagos – Porth y Plwm. Cofnododd hefyd fod gwythiennau plwm a chopr ym Mhenrhyn Du. Roedd y gwaith plwm yn gwneud elw da ar un adeg, ond yng ngeiriau Lewis Morris, ‘now lies under water, … recoverable with proper engines’. Ymddengys bod ymdrech wedi’i gwneud i ddraenio’r dŵr gan ddefnyddio injan stêm Boulton a Watt ond roedd yn waith costus – ‘the expenses proved superior to the profits’ (Pennant, 1773, gol. John Rhys 1883, 368).

Dyma oedd gan un o syrfewyr Ystâd y Faenol i’w ddweud ym 1800 am Hen Dŷ, Tyddyn Talgoch, daliad ar drwyn Penrhyn Du: ‘the lands have suffered very much by the Mine Company of Penrhyn Du who sank several shafts in it and left them open, and the heaps of rubbish delved therefrom not trimmed or levelled’. Nododd Hyde Hall, ym 1810, yr arferid cloddio am fwynau rai blynyddoedd cyn hynny ond bod y gwaith wedi dod i ben gan nad oedd yn gost-effeithiol. Ym 1839 roedd atgof o’r gwaith cynharach mewn cae yn Hen Dŷ a oedd yn dal i gael ei alw’n Cae Chwimse (chwimsi = peiriant i godi dŵr o waith mwyn).

Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif roedd y mwyngloddiau wedi agor eto. Gosodwyd injan o Gernyw yno yn y 1860au a chodwyd cwt injan. Erbyn y 1880au, roedd 240 o fwynwyr, naddwyr, golchwyr a gyrwyr injans yn gweithio yn y mwyngloddiau ar y penrhyn o Lanengan i Benrhyn Du. Roedd llawer o’r gweithwyr hyn wedi dod i Benrhyn Du o ardaloedd eraill. Roedd hanner y boblogaeth fwyngloddio’n dod o Gernyw a Dyfnaint.

Mynydd y Rhiw a Phenarfynydd Darganfuwyd manganîs ym Mynydd y Rhiw yn y 1820au. Yn dilyn gwaith archwilio ehangwyd y gwaith i’r Nant ym Mhenarfynydd a Benallt islaw Clip y Gylfinir. Yn ystod y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif roedd y gweithgaredd a’r cynhyrchu’n ysbeidiol. Fodd bynnag, gellid defnyddio manganîs i galedu dur ac roedd galw mawr amdano yn ystod y ddau ryfel byd. Yn ystod y blynyddoedd mwyngloddio cynnar, defnyddid mulod i gario’r manganîs at y môr ym Mhorth Cadlan. Yn ystod y cyfnod diweddarach, pan oedd y galw mwyaf am fanganîs, roedd rhaffordd awyr yn cario’r mwyn uwchben y pentref at y môr ym Mhorth Neigwl. Defnyddid incleins yn y Nant.

nant-1

Nant, inclein at y lefel isaf

Chwareli ithfaen rhwng Trefor a Nefyn Mae ymwthiadau igneaidd sy’n diffinio cymeriad gweledol y dirwedd rhwng Trefor a Nefyn yn ymestyn mewn cadwyn o gopaon a brigiadau creigiau caled, o’r Eifl i Garn Boduan.

 

Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif sefydlwyd chwareli lle’r oedd modd cael gafael ar ithfaen. Roedd rhai o’r chwareli hyn yn fach, ond roedd eraill yn llawer mwy. Agorwyd chwarel y Gwylwyr, i’r gogledd o Nefyn, ym 1835; chwarel Moel Tŷ Gwyn, Pistyll, tua chanol y ganrif; Carreg y Llam, Porth y Nant ym 1860 a’r Eifl yn Nhrefor ym 1880. Daeth y chwareli hyn a chwareli lleol eraill at ei gilydd i ffurfio’r Welsh Granite Company. Y gwaith mwyaf yn y blynyddoedd cynnar oedd gwneud sets, i’w gosod ar wyneb y ffyrdd mewn trefi a dinasoedd. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd y galw am sets wedi edwino a throdd y chwareli a oedd yn dal ar agor at gerrig mâl, fel cydran o darmacadam neu fel agreg ar gyfer concrid. Roedd y chwareli’n gweithio ar yr ochrau a oedd yn wynebu’r môr mewn ponciau neu silffoedd llorweddol. Roedd deg neu fwy o bonciau yn Nhrefor a chwech ym Mhorth y Nant. Roedd tramffyrdd ar oleddf yn cludo’r cynnyrch i’r traeth i’w allforio. Roedd perthynas agos rhwng y chwareli a phentrefi Trefor a Llithfaen, a Phistyll hefyd ar raddfa lai. Safai cant o dai mewn cnewyllyn clos o resi ger gweithdai’r chwarel ar waelod yr inclein yn Nhrefor. Anheddiad amaethyddol o bedair fferm a llond dwrn o lechfeddiannau ar y tir comin oedd Llithfaen ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Erbyn 1890 roedd yno 90 o dai, y rhan fwyaf yn gysylltiedig â chwarel Nant Gwrtheyrn. Roedd gan y Nant hefyd farics, siop a becws ar y safle tan i’r chwarel gau yn y 1950au.

Gwylwyr1

Gwylwyr, Nefyn

Mynydd Tir-y-cwmwd Dechreuwyd cloddio am yr ithfaen caled yn ail hanner y 19eg ganrif mewn tri lleoliad ar y pentir, sef Gwaith Trwyn, Gwaith Canol a chwarel lai ar yr ochr ddeheuol. Ar y dechrau, byddai cychod yn glanio ar y traeth, yn cael eu llwytho ac yn cael eu rhyddhau wedyn pan oedd hi’n benllanw, ond codwyd glanfeydd yn ddiweddarach. Y prif gynnyrch yn ystod y 19eg ganrif oedd sets. Caeodd y chwareli ym 1949.