Siop Penygraig

 

pengraig

 

Mae pentref Llangwnnadl ei hun wedi ei leoli ar dir hen fferm Pen y graig, lle sefydlwyd Siop Pen y graig a fu‘n un o siopau pwysicaf y wlad yn ei chyfnod, yn gwerthu’r ffasiwn diweddaraf a thynnu cwsmeriaid o bell; a daeth teulu’r Siop yn enwog am eu meddyginiaeth gyfrinachol i fendio’r ddafad wyllt. Mae carreg fedd Owen Griffiths i’w gweld ym mynwent Llangwnnadl.

 

bedd-griffith