Taith Porth Tŷ Mawr

Hyd: 6km – 3.75m

View Taith 4 – Llangwnnadl – Walk 4 in a larger map

 

Cyfarwyddiadau
Taith Porth Tŷ Mawr, Llangwnnadl yn cychwyn a gorffen ym maes parcio Pont yr Afon Fawr (SH 206341)
• Cychwyn o faes parcio Pont yr Afon Fawr (SH 206341)
• O’r maes parcio, croesi’r bont a dilyn llwybr i’r chwith i Draeth Penllech.
• Cerdded ar hyd y traeth tua’r gorllewin.(Sylwer: Os ydi hi’n agos i ben llanw rhaid fydd croesi’r afon ar y traeth, dringo grisiau’r clogwyn a cherdded ar ben yr allt i Borth Colmon)
• Mynd trwy giat ar y chwith (SH 199341) a pharhau ymlaen ar hyd ben yr allt tua Phorth Colmon (SH 194342)
• Ymlaen eto drwy Borth Colmon nes cyrraedd Porth Tŷ Mawr (SH 188331)
• Troi i ffwrdd o’r arfordir, heibio fferm Tŷ Mawr a dod allan yn Ffordd yr Arfordir.
• I’r chwith a heibio Bryn Villa ac yna troi i lwybr ar y dde ger Ty Cefn (SH 198327).
(* Llwybr ar Gau – Parhau i gerdded ar hyd y ffordd at Gapel Penygraig. Troi i’r dde ac i lawr yr allt at Bont Pen y
Graig. Yna i’r chwith a dilyn y ffordd yn ôl i’r maes parcio)
• Troi i’r dde pan ddaw’r llwybr hwnnw allan i ffordd Penygraig i Hebron. Troi i’r chwith i’r lôn sy’n arwain i Dy’n Rhos (SH 205326).
• Dilyn y llwybr ddaw allan rhwng Eglwys Llangwnnadl (SH 208332) a’r Hen Ysgol. (Mae’n werth ymweld ag Eglwys Llangwnnadl)
• Mynd ar y llwybr ger yr Hen Ysgol (SH 207332) a thrwy Barc Nant (gogledd orllewin)
• Pan daw’r llwybr allan ar Ffordd yr Arfordir, troi i’r dde a cherdded heibio Ty’n Cae, Nant a Phenllech Uchaf yn ôl i’r maes parcio.