Dunahoo 1814 Y Villa 1856Sorrento 1870William 1891 Stuart 1901 Colonel Gamble 1914
Dunahoo 1814
Ym Mhorth Baco yn 1814 yr aeth y “Dunchoo” neu’r “Dunahoo” ar y creigiau a chollwyd rhai o’r criw. Claddwyd y capten ar ben gallt y môr a dywedir i un o’r morwyr neidio ar ei fedd wrth fynd heibio a dweud, “Nid am dy ddaioni yr wyt ti yn gorwedd yn y fan yma.” Galwyd y fan hon yn Borth Dunahoo, neu hyd yn oed yn Borth Hwnahw ar lafar
Villa 1856
Y stori yw mai llong Sbaenaidd oedd hi yn cario glo o Lerpwl i Havre. Noson y Royal Charter yn 1856 yr aeth y “Villa” ar y creigiau ym Mhorth Colmon a boddwyd un o’r criw. Roedd Thomas Williams, Aelfryn, Tudweiliog yn blentyn pan ddigwyddodd hyn ac ymwelodd a’r ardal drannoeth.
Ni fentren ni y plant fyned yn agos ati am fod y criw oedd arni yn ryw hanner anwariaid, ac yn cario wrth y strap oedd am eu canol gledd mewn gwain.
Aed ati i gladdu’r aelod marw o’r criw ym mynwent Llangwnnadl ond trwy ryw arnryfusedd roedd y bedd yn rhy fyr. Neidiodd un o’r criw i’r bedd ar ben y corff i ofalu ei fod yn mynd i lawr yn iawn. ‘Roedd person y plwyf, wrth lwc, yn ŵr cyhyrog ac fe’i cododd allan.
Sorrento 1870
Suddodd mewn tywydd stormus iawn yn Hydref 1870. ‘Roedd yn llong dri mast yn cario llwyth cymysg o Lerpwl i NewOrleans. Er i’r criw dorri ei mastiau i geisio ei harbed daeth i mew n i greigiau Porth TyMawr. Ceisiodd un o’r criw gyrraedd glan gyda rhaff am ei ganol ond fe’i boddwyd. Arhosodd gweddill y criw wedyn ar ei bwrdd tra’r oedd hi’n treio. Yn y man Ilwyddasant i gyrraedd tir a chyrraedd fferm Ty Mawr lle’r oedd taid a nain Hugh Jones a’u mab a’u merch yn byw. Dyfynnaf o’r nodiadau,
Yr adeg hynny roedd sôn fod y Gwyddelod yn bwriadu ymosod ar dir Cymru a phan glywodd yr hen wraig swn y llongwyr o’r tu allan dyma hi yn gweiddi, “Maenhw wedi dwad, Cadi!” gan hwytio i neidio trwy’r ffenestr gefn o’u blaenau. Cododd y mab, cafodd afael ar hen wn, aeth i lawr y grisiau ac agor y drws. Daeth yr Americanwyr i mewn yn wlyb iawn. Ni fedrai John Hughes, Ty Mawr air o Saesneg a gwnaeth y morwyr ddefnydd o focs matsus, rhoi tair matsen arno i ddangos tri mast gan ei wthio ar hyd y bwrdd ac yn erbyn y pared i ddangos llong yn mynd yn erbyn y creigiau a daethant i ddeall ei gilydd.
William – 1891
Llong arall aeth i drafferthion ger Llangwnnadl oedd y -William- yn 1891. er y dywedir yn “Pigau’r Sêr” mai ym Mhorth Ty Mawr y drylliwyd honno a fod llechi o’r cargo i’w cael yno o hyd.
Stuart 1901
Ym Mhorth Ty Mawr, yr aeth y “Stuart” i helbulon; mae’r hanes hwn hefyd wedi ei groniclo yng nghyfres deledu “Almanac”. Yr hyn sy’n tynnu’r holl sylw at y llongddrylliad hwn yw mai wisgi oedd cyfran go dda o’r cargo. Canlyniad hyn fu rhoi enw newydd i’r fan, sef Porth Wisgi. Mae’n debyg y bu cryn ysbeilio yma, a’r pictiwr a gawn yw fod pawb, o’r byd a’r betws, am y gorau unai yn casglu’r poteli neu yn yfed cymaint ag oedd modd.
‘Does dim amheuaeth na fu 1901 yn dipyn o flwyddyn yn y fro a mynegwyd cryn bryder yng Nghyfarfod Ysgol Dosbarth Pen LIyn. Gosodwyd y testun “Ysgrif fer ar gychwyniad, a drylliad y llong ‘Stuart’ ar greigiau Porth Ty Mawr, Llŷn” yng Nghymldeithas Lenyddol Pen y Graig yn 1925 a gwelir y pryder am safonau moesol y trigolion yn parhau chwarter canrif yn ddiweddarach. Disgrifia’r buddugol, J. 0. Roberts, Ty Mawr Penllech mewn sobrwydd y sefylllfa a dyfynnaf ef heb ddiweddaru’r orgraff,
Yr oedd “staen” y gwaed ar y wefus, yn profi nad oedd gan ambell un ddim at dynnu corcyn or botel, felly nid oedd dim iw wneud ond taro ei gwddf yn y graig, ac arllwys yr hylif poeth ir cylla heb gofio am y gwydr miniog! mewn lle ychydig or neulltu yr oedd “cask”, ac wedi taro ei dalcen i mewn, canfuwyd yn ebrwydd pa beth oedd ei gynwysiad- “wisgi” “angen yw mam dyfais”- medd hen air, – wele un yn tynu ei esgid ac yn ei yfed o hono fel or “glass” gore allan un arall gyda’i flwch myglus, etc. pawb yn hwyluso y gwaith o’i wagio. Gerllaw yr oedd ffrwd fechan loyw-ber fel grisial, yn sisial rhwng y cerrig; ac yn llifo dros y bistylloedd bychain dros y creigiau i lawr tua’r môr, a’i llwybr mor laned a’r awyr ond yr oedd yn well gan ddyn serio ei gylla, pylu ei ymenydd, haearneiddio ei gydwybod, a hyrddio ei enaid i ddinistr bythol guda hylif y “cask”, yn hytrach na manteisio ar ddiod Duw, – dwr. 0 ynfydrwydd – a pha hyd?
Bu’r baledwyr yn brysur hefyd, a phan osodwyd y digwyddiad hwn yn destun yn Eisteddfod y Rhos yn 1902, John Owen, Brychdir ddaeth yn fuddugol.
Ceir peth o hanes y “Stuart” yn “BIas Hir Hel” a hefyd fe’i crybwyllir yn “Pigau’r Sêr”. Yn ôl darlith Robin Gwyndaf ymwelodd Serah Trenholme, â’r fan a gwelodd yr ysbeilio. Cefais ei hanes yn fanwl gan fy ewythr. Evan John Griffith, gan fod nodiadau Hugh W. Jones, Bryn Villa ganddo. Roedd Hugh Jones Bryn yn llygad-dyst i’r cyfan ac yn gofnodwr manwl.
Cychwyn wnaeth hi o Lerpwl i Seland Newydd ar Wener y Groglith 1901 gyda chriw o 19 a’i swyddogion ifanc. Mae’n rhaid mai diffyg profiad oedd yn fwyaf cyfrifol am y “ddamwain” gan nad oedd y tywydd yn ddrwg, niwi a glaw mân yn ôl y sôn, a dim byd gwaeth. Credid y byddai modd ei hwylio eilwaith ar ôl iddi ddod i’r lan, ond ymhen ychydig ddyddiau cododd gwynt o’r môr a thorri ei mastiau a’r rheini yn eu tro yn disgyn ar y llong a’i hagor. Canlyniad hyn fu gwasgaru’r cargo oedd yn cynnwys llestri, wisgi, stowt, canhwyllau, matsus, pianos, gorchuddiau lloriau ac yn y blaen. Mae’r llestri i’w gweld hyd dreselydd yr ardal heddiw ac mae rhai poteli or wisgi yn dal heb eu hagor.
Mae un o diwbiau’r “Stuart” i’w weld yn glir yn y creigiau melynion heddiw, a daw peth ohoni i’r golwg ar dreiau mawr.
Un o’r ffactorau oedd yn gyfrifol am y trafferthion yr aeth y “Stuart” iddynt oedd i’w chel fynd ar draws llong arall oedd yn gorwedd o dan y dwr. Y “Sorrento”
Diwedd Trist y Colonel Gamble (1914)
ATGOF A CHOFNOD THOMAS PARRY
PAN oeddwn i’n blentyn ac yn llanc, mi fyddwn yn treulio wythnosau bob blwyddyn yn nhy fy nain ym mhlwyf Llangwnnadl yn Llŷn, mewn gwlad o ffermydd oedd yn bur wahanol i ardal y chwareli yn Arfon lle’r oedd fy nghartref. Yr oedd yno lawer o bobl a phethau i i ddiddori bachgen, ac yr oedd Minafon, ty fy nain, yn ganolfan i wyr a gwragedd y cylch, am mai yno yr oedd siop a swyddfa’r fentr seithug honno, Cymdeithas Gydweithredol Amaethyddol Llŷn. Pan gychwynnwyd y “Co-op” yn 1913, fe benodwyd ewyrth imi, Evan Williams, yn Ysgrifennydd, a phan ddaeth y Gymdeithas i derfyn digyllid yn 1928, fe adawyd yr Ysgrifennydd heb ddim ar ei helw yn llythrennol ond dwy siwt a beic ac ychydig lyfrau.
Un elfen anfydus ym methiant y Gymdeithas oedd y lorri stem (neu dracsion ar lafar) a brynwyd am bymtheg cant o bunnau i gludo nwyddau dros y pedair milltir ar ddeg o Bwllheli, gan mai dyna ben-draw’r tren. Ond yn fuan ar ol ei phrynu fe ddaeth lorri betrol yn beth gweddol gyffredin, a bu’r tracsion yn ei chwt ym Mhenygroeslon heb godi’r un pwff o stem am rai blynyddoedd, nes ei gwerthu fel sgrap am drigain punt.
Yr oedd cyfrwng arall i gael nwyddau i Ben Llŷn, sef mewn llongau, ond bod hynny hefyd yn dod i ben tua’r un adeg. Yr oedd ffurfiant y glannau yn gyfryw fel bod llawer o draethau bychain a chilfachau graeanog rhwng y creigiau o Dudweiliog i Aberdaron-Porth Sgadan, Porth Gwylan, Porth Ychen, Porth Golmon, Porth Ty-mawr, Porth Ferin, Porth Iago, Porth y Wrach, Porthor a Phorth orion. Am ganrifoedd lawer bu llongau bychain yn tradio i’r cilfachau hyn; y mae son amdanynt mewn dogfen o gyfnod y brenin Harri VIII. Yr oeddynt yn dal i ddod pan oeddwn i’n hogyn, ond rwy’n credu i mi weld un o’r rhai olaf. Un o brofiadau mwyaf iasol a chynhyrfiol fy mlynyddoedd cynnar oedd gweld dadlwytho llong ym Mhorth Golmon, er nad oedd i mi ddim rhan yn y gwaith, ond bod rhyw swyn gafaelgar imi yng ngweithgareddau’r môr.
Yr enw technegol ar y llongau a fyddai’n dod i Borth Golmon oedd “ketch”, gyda dau fast, y blaen yn fwy na’r ol, ond nid oedd hwyliau ar y rhai a welais i, oherwydd yr oedd y peiriant petrol wedi dod i fod erbyn hynny. Rhyw gan tunnell oedd maint eu cargo. Ym misoedd yr haf yn unig y byddent yn dod yno, oherwydd yr oedd gormod o greigiau o gwmpas yr hafn, a hyd yn oed yn yr haf, petai gwynt o’r gorllewin yn codi’n sydyn, byddai raid rhoi’r gorau i ddadlwytho yn syth a mynd a’r llong allan i’r môr agored. Clywais fy ewyrth yn sôn am ryw long a ddaeth yno yn rhy hwyr ar y fwyddyn, ac fe ddaeth yn storm a chwythwyd hi ar y creigiau, ac yno y bu nes ei dryllio’n llwyr.
Pan oedd masnach y llongau yn ei bri, y llwyth cyntaf i gyrraedd bob dechrau haf fyddai llestri pridd o gyrrau Mostyn, yn ôl a glywais, sef potiau a dysglau at iws ffermwyr pan oedd corddi a gwerthu menyn yn rhan bwysig o economi pob ffarm. Yna doi llwythi o lo, blawdiau o bob math ar gyfer dyn ac anifail, a gwrtaith gwneud, basic slag gan mwyaf. Yr oedd cyfran helaeth a angenrheidiau darn o wlad weddol boblog yn dod dros y môr i Borth Golmon a’r porthladdoedd bach eraill o gwmpas.
Yr oedd dadlwytho cynnwys y llong, beth bynnag fyddai, yn dipyn bach o broblem, oherwydd nid oedd yno ddim o’r craeniau a’r ger o’r fath a welir mewn dociau mawr. Yr hen ddull oedd mynd a throliau at ymyl y llong ar y trai, ond dim ond am ychydig oriau bob dydd y gellid gwneud hynny. Yr oedd ym Mhorth Golmon, pan wyf fi’n cofio, fath o lwyfan pren wedi ei adeiladu allan o’r graig yn wastad â bwrdd y llong. Ond yr oedd y “Co-op” wedi moderneiddio a mecaneiddio yn rhyfeddol, trwy ddefnyddio coed y llong oedd wedi mynd yn ddrylliau i godi cwt ar allt y môr (a warws helaeth hefyd) ac yn hwnnw yr oedd peiriant stem yn weindio twb o howld y llong ar hyd weiar-rop oedd ag un pen iddi yn sownd ar y lan a’r llall wrth fast y llong. Yr oedd hyn yn ffordd gyflym o ddadlwytho, ac o gofio peryglon tywydd mawr yr oedd cyflymder yn ystyriaeth bwysig dros ben.
Mi fûm i unwaith yn dyst o olygfa ramantus. Yr oedd yn noson hyfryd yn yr haf, a llong wedi cyrraedd y Borth, ond yn rhy hwyr ar y dydd i ddechrau dadlwytho. Mi welwn fam a merch yn dod i lawr y ffordd at y Borth, Mrs. Griffith, Glanyrafon Fawr, a’i merch Jane. Yna dyma’r Capten, wedi gwisgo’n drwsiadus, yn camu dros ochr y llong ar y llwyfan pren, cerdded i fyny at y merched a’u cyfarch, a ffwrdd a hwy, i swper yng Nglanyrafon yn ddiamau. Y diwedd fu priodi wrth gwrs. Rhyw atgofion fel yna oedd gen i am y llongau bach ym Mhorth Golmon, nes imi fynd ati ryw ddwy flynedd yn ôl i baratoi darlith ar gyfer rhyw gynhadledd yn Aberystwyth. Mi feddyliais mai da fyddai cael rhyw wybodaeth ddogfennol i gadarnhau’r hyn oedd gen i ar fy nghof. Nid oedd fawr o help i’w gael yn llyfr David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, er rhagored gwaith yw hwnnw, nac mewn erthyglau a ymddangosodd yn Nhrafodion cymdeithas hanes y sir. Mi holais ar antur betrus yn Llyfrgell Coleg Bangor, a dyma Mr. Derwyn Jones, gyda’i ddawn i greu bendithion annisgwyl, yn dangos imi ddau lyfryn bychan digon diolwg.
Ar ddalen flaen un ohonynt yr oedd y geiriau “Cargo book of the ketch Colonel Gamble. Commander R. Hughes”, a’i gynnwys yn rhedeg o 5 Ionawr 1910 hyd I4 Chwefror 1914. Ar y llyfryn arall nid oedd dim teitl, ond yn unig “Robert Hughes of ketch Tryfan of Portdinlleyn, Carnarvonshire”, a’r tu mewn iddo yr oedd record o deithiau rhwng Chwefror I9I6 a Medi I9I7. Yn ôl y llyfrau yr oedd y ddwy long yn arfer galw’n rheolaidd ym Mhorth Golmon. Tybed ai’r Tryfan oedd yr un y byddwn i’n arfer ei gweld? Yr oedd un o’r llyfrynnau yn rhoi cyfeiriad Capten Hughes fel Bryn Eos, Woodlands, Conwy, ac yr oedd nodyn yn dweud ei fod wedi byw mewn dau dy arall yn yr un dref, Glanrafon a Tryfan. Os ef oedd gwr Jane Grifflth o Lŷn, yr oedd wedi rhoi enw ei chartref hi ar un o’i dai, ac enw ei long ar y llall, arfer gyffredin gan gapteniaid llongau, fel y gwelir wrth lawer o enwau rhyfedd uwchben drysau tai yn Aberaeron, Aberystwyth a Chaernarfon.
Yr oedd gweld hyn i gyd yn hwyl fawr, a minnau’n teimlo’n ffyddiog fy mod ar drywydd y dyn iawn. Ond i wneud yn siwr mi ofynnais am help y gwr gwybodus a chymwynasgar hwnnw, Mr. Ivor Davies, Penmaen-mawr, hanesydd lleol tra hyddysg, a chefais ganddo lawer o wybodaeth ddiddorol. Yr oedd ef yn adnabod Capten Hughes yn dda. Ganed ef yn 1876 yn fab i gapten arall, William Hughes, a fyddai’n tradio rhwng Trefriw a Lerpwl yn y Chester Trader. Llong gyntaf Robert Hughes oedd y fflat Agnes, un o’r llongau bach a fyddai’n hwylio i fyny’r afon Gonwy cyn belled a Threfriw. Yn 1903 penodwyd ef yn gapten y Colonel Gamble, ac yn 1912 fe brynodd y llong. O 1914 hyd ddiwedd 1919 ef oedd capten y llong Tryfan. Yna oherwydd cael anaf i’w fraich ymddeolodd o’r môr, a chafodd waith ar y lan yng Nghonwy. Gwyddai Mr. Ivor Davies mai merch o Lŷn oedd gwraig y capten ac mai Jane oedd ei henw. Felly rhwng popeth yr oeddwn yn bur sicr yn fy meddwl mai ef oedd y dyn a welais yn dod o’i long i gyfarfod ei gariad ym Mhorth Golmon dros hanner can mlynedd yn ôl, ac mai’r Tryfan oedd y llong honno.
Yn ôl yn awr at y “cargo book”. Tua diwedd llyfr y Colonel Gamble y mae cofnod yn dweud fod y llong wedi gadad Garston am Borth Golmon gyda 61 o dunelli o lo a 35 o dunelli o basic slag ar g Hydref 1913. Mi synnais weld ei bod yn mentro yno mor ddiweddar a hyn ar y flwyddyn. Yr oedd y cofnod ar waelod y tudalen. O droi i’r ddalen nesaf dyma a welais: “Blown ashore on top of Rocks Nov. 13, 1913 and on till went total wreck Feb. 14, 1914″. A dyna ddiwedd trist y Colonel Gamble.
A dyma’r llong y dywedodd fy ewyrth wrthyf amdani, ac y defnyddiwyd ei choed i adeiladu’r warws a’r cwt i’r peiriant stem gan y “Co-op”. Bu Mr. Aled Eames mor garedig a rhoi imi rai manylion am y llong o lyfrau Tolldy Biwmares (sy’n awr yn y Custom House yng Nghaergybi). Adeiladwyd hi yn y Rhyl yn 1863, a’i pherchennog cyntaf oedd William Roberts, Llywelyn Street, Conwy. Fflat un mast oedd i gychwyn, ond ychwanegwyd mast arall a’i gwneud yn “ketch”. Coed oedd ei defnydd, ei hyd yn 66 o droedfeddi, ei lled yn 19, a dyfnder yr howld yn saith. Pan ddrylliwyd hi, yr oedd yn flwyddyn dros ei hanner cant oed, ac yr oedd hynny’n oed mawr, oherwydd rhyw ddeng mlynedd ar hugain oedd hyd einioes yr hen longau coed.
Y mae’r ddau lyfr cargo a ysgrifennodd Capten Hughes yn rhoi darlun diddorol o’r fasnach gyda’r glannau pan oedd y fasnach honno ar ei hen sodlau. Dyma’r lleoedd y byddai’r llongau yn galw ynddynt: Manceinion, Lerpwl, Garston, Runcorn, Widnes, Hesketh Bank, Point of Ayr, Caergybi, Cemais, Moelfre, Lleiniog, Biwmares, Porth aethwy, y Felinheli, Caernarfon, Portinllaen, Porth Golmon, Abersoch. Bu’r Tryfan ym Mhorth Golmon ddeng waith yn ystod y ddau haf a gynrychiolir yn y llyfr cargo. Fe welir mai’r darn o fôr a elwir yn Fae Lerpwl a Bae Caernarfon oedd eu rhanbarth. Fe aeth y Colonel Gamble un waith mor bell â Chei newydd yng Ngheredigion. Yr oedd y fasnach wedi para yn Llŷn am nad oedd y rheilffordd yn mynd ond i Bwllheli, ac nid oedd cludiant ar y ffyrdd yn ddim ond yr hyn y gallai “cariwrs” ei wneud gyda chefylau.
Yr oedd cludo dros y môr yn rhad. Chwe swllt y dunnell oedd y tâl am gludo glo, ac felly ar gan tunnell yr oedd y cyfanswm yn ddeg punt ar hugain. Gan mai ef oedd biau’r llong yr oedd Capten Hughes yn cael yr arian yma’n llawn. (Petai ef yn gapten cyflogedig, neu “gapten gosod”, buasai un rhan o dair o’r tâl yn mynd i’r perchennog.) O’r swm hwn yr oedd raid iddo dalu cyflog ei griw a thalu am eu bwyd ar bob mordaith, talu peilot a thaliadau arbennig mewn rhai porthladdoedd, ac ar ôl rhoi’r gorau i ddibynnu ar y gwynt yr oedd raid iddo dalu am betrol. Gyda thywydd gweddol a digon o gargo, gallai incwm Capten Hughes fod tua thri chant o bunnau yn y flwyddyn, cyflog da iawn drigain mlynedd yn ôl – cyflog Athro Coleg yn wir.
Un fantais o dradio i borthladdoedd bach Llŷn oedd gorfod mynd yn ôl yn “light”, fel y mae’r Capten yn dweud, sef yn wag. Nid oedd dim allforio o Llŷn, ac eithrio ychydig o fanganîs o waith Mynydd y Rhiw. Yn y ddeunawfed ganrif ac i fyny i chwarter cyntaf y ganrif ddiwethaf yr oedd cryn lawer o allforio menyn a chaws, ond yr oedd hyn i gyd wedi dod i ben erbyn yr amser y sonnir amdano yn y llyfrau cargo.
Y mae trafnidiaeth y ffyrdd fel y mae heddiw yn cymryd llai o amser wrth reswm na’r drafnidiaeth dros y môr. Ac eto, syndod mor gyflym, pan fai’r hin yn ffafriol, y gallai’r llongau fynd o un lle i’r llall. Yr oedd y Colonel Gamble yn gadael Lerpwl gyda chan tunnell o wrtaith ar 17 Ionawr 1911, ac yn cyrraedd Moelfre drannoeth. Taith gymharol fer oedd hon, ac yr oedd yn llinell syth. Ar I6 Mehefin 1916 cychwynnodd y Tryfan o Lerpwl gyda 98 o dunelli o lo, cyrhaeddodd Borth Golmon a dadlwythodd, hwyliodd yn 81 i Lerpwl a llwythodd 88 o dunelli o lo eto, ac yr oedd yn cychwyn am Borth Golmon ar 27 Mehefin. Camp go dda mewn un diwrnod ar ddeg, a chofio’r fordaith trwy afon Fenai a thros fae Caernarfon, lle’r oedd llawer yn dibynnu ar gyflwr y teitiau.
Dyna’r hwylio gyda’r glannau, neu’r “costio”, math o fyw ac o weithio a aeth heibio ers blynyddoedd bellach. Rhan ydoedd o holl amryfal weithgareddau’r môr, oedd yn cynnwys hefyd hwylio ar led, ac adeiladu llongau a’u hailadeiladu a’u trwsio, gan roi gwaith i grefftwyr medrus iawn, yn seiri a gofaint a gwneuthurwyr hwyliau a rhaffau. Mi gefais i gyfle i weld y drafnidiaeth a’r fasnach oesol hon yn ei munudau olaf megis, ac mi fyddaf yn rhyw ofer freuddwydio weithiau ar ambell funud chwith a meddal a rhamantus, a gofyn, o gofio fel y bu i’r rheilffordd lwyr ddisodli’r ffordd dyrpeg ar un cyfnod, ac yna, erbyn ein dyddiau ni, y ffordd wedi disodli’r rheilffordd, tybed a ddaw eto ryw dro rhyfedd ar fyd a fydd yn adfer i’r môr a’i longau bychain eu goruchafiaeth ar y ffordd a’i cheir. Go brin efallai; ond peidied neb â bod yn rhy siwr.