Yr Odyn Galch

Odyn CalchTrwshio rhwyd, odyn galch Porth Colmon

Gan fod priddoedd arfordir gorllewin Cymru wedi’u trwytholchi gan lawiadau trymion, roedd angen cyfansoddyn alcalïaidd fel calch arnynt er mwyn dychwelyd y ddaear asidig i lefel niwtral, a thrwy hynny annog twf planhigion a glaswellt. Mae calch sydd wedi’i drin yn dra anweddol ac yn adweithio gyda dŵr, ac felly roedd yn fwy ymarferol cludo’r blociau calchfaen fel deunydd crai ac yna’i brosesu yn agos i’r fan lle byddai’n cael ei ddefnyddio. Roedd y ffyrdd yn gul, yn anwastad a throellog a byddai cludo digon o flociau cerrig mawr fesul llwyth bychan ar gert wedi bod yn dasg letchwith ac yn un a fyddai’n cymryd llawer o amser, felly defnyddid cychod ‘gwaelod gwastad’ i gludo’r garreg ar y môr. Câi’r llwyth ei lanio ar y traethau tywodlyd pan fyddai’r llanw i mewn ac ail-lenwid y cychod â chynhyrchion fferm lleol yn barod i’w hallforio. Dyma oedd yr ateb mwyaf ymarferol felly, sef adeiladu’r odynau rhyw ychydig uwchlaw’r traethau hyn.

calch-sgadenGlanio Calchfaen, Porth Sgaden

Mae manteision calch wedi bod yn wybyddus ers miloedd o flynyddoedd – ceir cofnod am odyn galch sy’n dyddio nôl i’r cyfnod canoloesol – er y câi ei ddefnyddio bryd hynny fel morter neu briddgalch, fel calch-olchiad ar gyfer adeiladau neu fel diheintydd.

Defnyddid calch hefyd yn y fasnach adeiladu fel elfen mewn morter ac fel golchiad i warchod waliau tai (ac mae’r arfer honno’n parhau). Yn y byd ffermio da byw, gellir defnyddio calch hydradol fel diheintydd ac mae’n creu amgylchedd sych ac alcalïaidd sy’n atal twf bacteria.

Adeiladwaith

Er mwyn cynhyrchu calch mewn ffurf fyddai’n llesol i’r pridd, byddai odynau cerrig neu lechi yn cael eu hadeiladu wrth ymyl y traethau lle câi’r calchfaen ei ddosbarthu. Gall odynau calch fod yn grwn neu’n betryal o ran siâp ac wedi’u hadeiladu o gerrig neu friciau lleol. Byddid yn eu hadeiladu gyda chragen allanol a ‘chrochan’ llosgi ar y tu mewn wedi’i lanw â rwbel. Roedd ‘crochan’ yr odyn garreg wedi’i leinio â briciau tân er mwyn ymestyn ei ddyddiau. Roedd y twll tynnu yn y gwaelod yn gadael aer i lifo i mewn i’r siambr ac yn cadw’r glo mân ynghynn. Byddai pen ucha’r simnai yn cael ei orchuddio er mwyn rheoli cyflymdra’r llosgi. Yn aml iawn, byddai mwy nag un odyn galch ar bob safle.

odyn-wernOdyn Galch Wern, Nefyn.

Llosgi Calch

Câi’r garreg ei llwytho i mewn ar y pen uchaf a’i gosod am yn ail mewn haenau, tair neu bum rhan o galchfaen i un rhan o lo mân (y tanwydd llosgi oedd yn gymysgedd o lwch glo caled, clai lleol a dŵr). Byddai tân yn cael ei gynnau ar waelod yr odyn, ac yn eu tro byddai’r haenau glo mân yn dechrau llosgi a’r garreg galch wedyn yn cynhesu i dymheredd o rhwng 900 – 1100ºC. Byddai carbon deuocsid o’r calchfaen a sylffwr o’r llwch glo safon isel yn cyfuno i greu nwy a mygdarth gwenwynig oedd yn cael eu gollwng o’r odynau calch yn ystod y broses losgi. Ar ôl 3-5 diwrnod, byddai’r glo mân wedi llosgi’n ddim, gan droi’r calchfaen yn galch brwd. Gadewid hwn i oeri am bedwar neu bum diwrnod arall, ac yna câi’r calch brwd ei dynnu o’r odyn â rhaca.

Mae calch brwd yn anweddol a chyrydol dros ben, felly byddai’r ffermwyr yn ei adael mewn pentyrrau er mwyn iddo amsugno dŵr glaw, fyddai’n niwtraleiddio ei effeithiau cyrydol, cyn ei ledaenu ar y tir. ‘Slecio’ yw’r enw ar y broses hon. Câi’r calch ei ychwanegu at y pridd mewn cymhareb o 4 tunnell fesul erw.

odyn

Dirywiad y diwydiant

Dechreuodd y diwydiant ddirywio’n raddol wrth i’r rheilffyrdd gyrraedd yr ardal yn yr 1860au. Roedd yn gyflymach cludo’r calchfaen ar reilffordd i odynau y gellid eu lleoli’n fwy strategol er mwyn cyflenwi’r galw o’r tu allan. At hynny, roedd dulliau eraill o ailfywiogi’r pridd yn cael eu defnyddio ar y pryd, e.e. giwana, rhagredegydd gwrteithiau eraill.

Daeth diffyg defnydd yn nodwedd o’r odynau oedd i’w gweld ar hyd glannau Cymru ac fe ddechreuasant ddadfeilio dan ymosodiad y tywydd arfordirol ac felly prin yw’r rhai sydd ar ôl i’n hatgoffa o’r amser hwnnw

Heddiw, gallwch weld olion odynau calch yn Llyn, Porth Colmon, Porth Sgadan, Porthor, Abersoch, Bwlch Bridyn (Morfa Nefyn), Wern (Nefyn) ayyb.

odyn

 

Twll tynnu Odyn Porth Colmon