Llwybrau ardal Llangwnnadl
View Taith 4 – Llangwnnadl in a larger map
Mae llwybr arfordir Llŷn yn rhan o’r llwybr arfordir cenedlaethol. Mae’r llwybr yn dilyn arfordir Gwynedd gyfan gan gychwyn yn Llanfairfechan yng ngogeldd y sir, ac yn ymestyn 180 milltir i ochrau Machynlleth yn ne y sir.
Efallai nad oes yn Llŷn gadeirlan ac eglwysi mawreddog fel sydd yn Nhyddewi neu Gaerefrog, Ond dros y canrifoedd mae pobl yr ardal wedi adeiladu, cynnal a chadw a gweddio mewn adeiladau sy’n adlewyrchu amrywiaeth eang o arddulliau pensaerniol a dylanwadau diwylliannol. Heddiw, mewn trefi a phentrefi ar hyd a Iled Cymru mae pensaerniaeth ddiweddarach, a braidd yn foel, y capeli yn amlwg iawn. Er hynny, mewn cilfachau yma a thraw, ceir mynegiant Ilawer hyn o ddefosiwn crefyddol. Eglwysi yw’r rhain – rhai ohonynt mor fychan fel mai prin y byddai rhywun yn sylwi arnynt. Mae nhw’n ddolen gyswllt rhyngom a dyddiau cynharaf Cristnogaeth, sef yr Eglwys Geltaidd hynafol a ddaliodd ei thir yn yr ardal hon hyd at y drydedd ganrif ar ddeg.
Mae traul amser wedi gadael ei ol ar lawer o’r eglwysi a restrlr yma. ac nid yw pob un yn adeilad hynafol. Er hynny mae pob un, mewn rhyw fodd neu’i gilydd, wedi dal ei gafael naill ai ar Wrthrychau o’r oes Gristnogol gynnar honno, neu ar beth o ysbryd yr eglwys gynharach oedd ar y safle, neu yn y cyffiniau, Yn y gorffennol.
Ychydig a wyddom am y rhan fwyaf o’r “Seintiau” yr enwyd yr eglwysi hyn ar eu holau. Efallai mai cenhadon cynnar oedd rhai ohonynt, yn cludo’r ffydd i drigolion Prydain fore, ac eraill yn feudwyaid yn byw bywyd defosiynol syml yn yr ardal. Maen bosibl fod ambell un arall wedi cyfrannu tir ar “fer adeiladu’r eglwysi cyntaf. (Mae’n werth nodi yma mai’ ystyr gwreiddiol y gair “Llan” oedd neilltuad cysegredig ar gyfer addoliad a chladdedigaeth. Datblygodd yr ystyr i olygu eglwys y sant a’i sefydlodd, tic oherwydd bod pentrefi wedi tyfu o amgylch yr eglwysi mae Ilawer o’r pentrefi heddiw yn dwyn enw’r eglwys wreiddiol. Beth bynnag fo rheswm y teithiwr modern dros ddilyn Llwybr y Pererinion: rhesymau defosiynol, diddordeb mewn pensaerniaeth, hanes neu ddiwylliant, bydd ‘pererinion’ ein dyddiau ni yn sicr o gael profiad cyfoethog a fydd yn rhoi boddhad iddynt.
Wrth ddilyn y llwybr, yr hyn fydd yn taro’r teithiwr mewn ambell fan fydd yr ymdeimlad o unigedd a phellter oddi’ wrth weddill y byd yr union beth a ddenodd y Seintiau Celtaidd cynnar. Yn Llŷn mae cyfle o hyd i fwynhau heddwch a llonyddwch ac i fyfyrio ynghylch ystyr bywyd yng nghanol harddwch byd natur.
Gwaetha’r modd, nid yw pob un o’r eglwysi a restrir yma ar agor bob dydd. Mae modd trefnu I fynd i mewn i rai ohonynt (gweler yr hysbysfyrddau y tu allan i’r eglwylsi eu hunain am fanylion Ynghylch mynediad/amser agor.), ond efallai na fydd yn bosibl mynd i mewn i ambell un, yn enwedig ar rai adegau o’r flwyddyn.
Dilynwch yr arwyddion llechan
Ceir arwyddion ar rai rhannau o Lwybr y Pererinion, ond fe’ch cynghorir i fynd a map Ordnans graddfa fawr o’r ardal gyda chi.
Mae dau lwybr mewn gwirionedd - llwybr gogleddol a llwybr deheuol sy’n cyfarfod yn Aberdaron gyferbyn ag Ynys Enlli. Mae’r ddau lwybr modern yn ceisio dilyn, lle bo modd, ol troed pererinion yr oes a fu.
Byddent hwy wedi cael eu cludo mewn cwch ar draws y dyfroedd peryglus i Enlli, ond y dyddiau hyn cyfyngir ar y niferoedd a gaiff mynd i’r ynys oherwydd ei statws fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Mapiau Rhyngweithiol o Llwybrau y Pererinion - http://www.penllyn.com/1/Hanes/Crefyddol/index.html
Taith Mynydd Yr Ystum
Cychwyn a Gorffen: Canol pentref Aberdaron
Parcio: Canol pentref Aberdaron
Hyd y Daith: 19 milltir
Ar ran gyntaf y daith, o Aberdaron ac ar hyd yr arfordir, byddwch yn dilyn Ffordd y Pererinion a redai o Glynnog Fawr i Ynys Enlli. Yn Eglwys Hywyn Sant mae dwy garreg fedd o’r 6ed Ganrif ac yn Y Gegin Fawr, sy’n gaffi poblogaidd, y gorffwysai’r pererinion cyn mentro ar draws y Swnt stormus. Mae hanes yn glynu yn dynn ym mhendraw Llŷn. Ewch heibio i gromlech, maen hir a ffatri arfau Oes y Cerrig, a bydd modd galw yn yr eglwys dawel a hardd yn Llangwnnadl – cyrchfan arall i’r seintiau.
Taith Garn Fadryn
Cychwyn a Gorffen: Canolfan Dwristiaeth Abersoch
Parcio: ger y Neuadd
Hyd y Daith: 27 milltir
Amser: 3-4 awr
Wrth ddringo o Abersoch i Fynytho fe welwch Garn Fadryn o’ch blaenau, ac ar y chwith bydd Porth Neigwl, Ynys Enlli a Mynydd y Rhiw. Yn y safle picnic yng nghysgod Y Foel Gron, Mynytho, cewch fwynhau golygfeydd ysblennydd dros Fae Ceredigion ac at fynyddoedd Meirionnydd. Mae’r Ynysoedd Tudwal yn gorwedd yn dawel yng nghanol prysurdeb Bae Abersoch.
Taith Garn Boduan
Cychwyn a Gorffen: Y Groes, Nefyn
Parcio: Stryd y Plas, Nefyn
Hyd y Daith: 17 milltir
Amser: 2 – 3 awr
Mae Nefyn yn dref arbennig a dderbyniodd er siarter gan y Tywysog Du ym 1355. Mae iddi hanes llawn rhamant. Bu yn enwog am ei phenwaig a gwelir y tri phennog ar arfbais y dref. Ceir Amgueddfa Forwrol yn yr hen eglwys. Wrth ddringo’r allt i fyny at Fynydd Nefyn edrychwch yn ôl ar yr olygfa ysblennydd o Faeau Nefyn a Phorthdinllaen. Bu’r ddau fae yn enwog am adeiladu llongau ac yn borthladdoedd llongau hwyliau prysur. Tri chopa’r Eifl sydd i’w gweld ar y chwith.
Taith Garn Bentyrch
Cychwyn a Gorffen: Maes parcio gyferbyn a Madryn Arms, Chwilog
Parcio: gyferbyn a Madryn Arms, Chwilog
Hyd y Daith: 14 milltir
Amser: 2 – 2½
Dyma daith hamddenol gyda’r ffordd yn bur wastad trwy ganol Eifionydd, ‘y tawel gwmwd hwn’.Un nodwedd enwocaf yr ardal ydi’r Lôn Goed sy’n ymestyn i’r gogledd o Afonwen yng nghyffiniau Chwilog hyd at ardal Brynengan ar lethrau Mynydd Cennin. Plannwyd ei choed derw a ffawydd yn nechrau’r 19eg Ganrif i wasanaethu ffermydd stad Talhenbont, a phery hyd heddiw yn daith gerdded ddifyr. Ger fferm Betws Fawr byddwch yn croesi’r Lôn Goed am y tro cyntaf ac yn ymuno â Lôn Las Cymru (Taith 8) cyn i honno wahanu ac ymuno yn y man â Lon Eifion.