Llwybrau y Pererinion

Efallai nad oes yn Llŷn gadeirlan ac eglwysi mawreddog fel sydd yn Nhyddewi neu Gaerefrog, Ond dros y canrifoedd mae pobl yr ardal wedi adeiladu, cynnal a chadw a gweddio mewn adeiladau sy’n adlewyrchu amrywiaeth eang o arddulliau pensaerniol a dylanwadau diwylliannol.
Heddiw, mewn trefi a phentrefi ar hyd a Iled Cymru mae pensaerniaeth ddiweddarach, a braidd yn foel, y capeli yn amlwg iawn. Er hynny, mewn cilfachau yma a thraw, ceir mynegiant Ilawer hyn o ddefosiwn crefyddol. Eglwysi yw’r rhain – rhai ohonynt mor fychan fel mai prin y byddai rhywun yn sylwi arnynt. Mae nhw’n ddolen gyswllt rhyngom a dyddiau cynharaf Cristnogaeth, sef yr Eglwys Geltaidd hynafol a ddaliodd ei thir yn yr ardal hon hyd at y drydedd ganrif ar ddeg.

Mae traul amser wedi gadael ei ol ar lawer o’r eglwysi a restrlr yma. ac nid yw pob un yn adeilad hynafol. Er hynny mae pob un, mewn rhyw fodd neu’i gilydd, wedi dal ei gafael naill ai ar Wrthrychau o’r oes Gristnogol gynnar honno, neu ar beth o ysbryd yr eglwys gynharach oedd ar y safle, neu yn y cyffiniau, Yn y gorffennol.

Pistyll6

Ychydig a wyddom am y rhan fwyaf o’r “Seintiau” yr enwyd yr eglwysi hyn ar eu holau. Efallai mai cenhadon cynnar oedd rhai ohonynt, yn cludo’r ffydd i drigolion Prydain fore, ac eraill yn feudwyaid yn byw bywyd defosiynol syml yn yr ardal. Maen bosibl fod ambell un arall wedi cyfrannu tir ar “fer adeiladu’r eglwysi cyntaf. (Mae’n werth nodi yma mai’ ystyr gwreiddiol y gair “Llan” oedd neilltuad cysegredig ar gyfer addoliad a chladdedigaeth. Datblygodd yr ystyr i olygu eglwys y sant a’i sefydlodd, tic oherwydd bod pentrefi wedi tyfu o amgylch yr eglwysi mae Ilawer o’r pentrefi heddiw yn dwyn enw’r eglwys wreiddiol.
Beth bynnag fo rheswm y teithiwr modern dros ddilyn Llwybr y Pererinion: rhesymau defosiynol, diddordeb mewn pensaerniaeth, hanes neu ddiwylliant, bydd ‘pererinion’ ein dyddiau ni yn sicr o gael profiad cyfoethog a fydd yn rhoi boddhad iddynt.

pistyll

Wrth ddilyn y llwybr, yr hyn fydd yn taro’r teithiwr mewn ambell fan fydd yr ymdeimlad o unigedd a phellter oddi’ wrth weddill y byd yr union beth a ddenodd y Seintiau Celtaidd cynnar. Yn Llŷn mae cyfle o hyd i fwynhau heddwch a llonyddwch ac i fyfyrio ynghylch ystyr bywyd yng nghanol harddwch byd natur.

Pistyll - Carreg a chroes - 1980au cynnar
Gwaetha’r modd, nid yw pob un o’r eglwysi a restrir yma ar agor bob dydd. Mae modd trefnu I fynd i mewn i rai ohonynt (gweler yr hysbysfyrddau y tu allan i’r eglwylsi eu hunain am fanylion Ynghylch mynediad/amser agor.), ond efallai na fydd yn bosibl mynd i mewn i ambell un, yn enwedig ar rai adegau o’r flwyddyn.

Dilynwch yr arwyddion llechan

Ceir arwyddion ar rai rhannau o Lwybr y Pererinion, ond fe’ch cynghorir i fynd a map Ordnans graddfa fawr o’r ardal gyda chi.

Mae dau lwybr mewn gwirionedd - llwybr gogleddol a llwybr deheuol sy’n cyfarfod yn Aberdaron gyferbyn ag Ynys Enlli. Mae’r ddau lwybr modern yn ceisio dilyn, lle bo modd, ol troed pererinion yr oes a fu.

Byddent hwy wedi cael eu cludo mewn cwch ar draws y dyfroedd peryglus i Enlli, ond y dyddiau hyn cyfyngir ar y niferoedd a gaiff mynd i’r ynys oherwydd ei statws fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.



Mapiau Rhyngweithiol o Llwybrau y Pererinion - http://www.penllyn.com