Llwybr Beicio Llŷn

 

Taith Mynydd Yr Ystum

Cychwyn a Gorffen: Canol pentref Aberdaron

Parcio: Canol pentref Aberdaron

Hyd y Daith: 19 milltir

Amser: 2 – 3 awrMynydd Yr Ystum MapA

Ar ran gyntaf y daith, o Aberdaron ac ar hyd yr arfordir, byddwch yn dilyn Ffordd y Pererinion a redai o Glynnog Fawr i Ynys Enlli. Yn Eglwys Hywyn Sant mae dwy garreg fedd o’r 6ed Ganrif ac yn Y Gegin Fawr, sy’n gaffi poblogaidd, y gorffwysai’r pererinion cyn mentro ar draws y Swnt stormus. Mae hanes yn glynu yn dynn ym mhendraw Llŷn. Ewch heibio i gromlech, maen hir a ffatri arfau Oes y Cerrig, a bydd modd galw yn yr eglwys dawel a hardd yn Llangwnnadl – cyrchfan arall i’r seintiau.


Taith Garn Fadryn

Cychwyn a Gorffen: Canolfan Dwristiaeth Abersoch

Parcio: ger y Neuadd

Hyd y Daith: 27 milltir

Amser: 3-4 awr

Garn Fadryn MapB

Wrth ddringo o Abersoch i Fynytho fe welwch Garn Fadryn o’ch blaenau, ac ar y chwith bydd Porth Neigwl, Ynys Enlli a Mynydd y Rhiw. Yn y safle picnic yng nghysgod Y Foel Gron, Mynytho, cewch fwynhau golygfeydd ysblennydd dros Fae Ceredigion ac at fynyddoedd Meirionnydd. Mae’r Ynysoedd Tudwal yn gorwedd yn dawel yng nghanol prysurdeb Bae Abersoch.


Taith Garn Boduan

Cychwyn a Gorffen: Y Groes, Nefyn

Parcio: Stryd y Plas, Nefyn

Hyd y Daith: 17 milltir

Amser: 2 – 3 awr

Garn Boduan MapCMae Nefyn yn dref arbennig a dderbyniodd er siarter gan y Tywysog Du ym 1355. Mae iddi hanes llawn rhamant. Bu yn enwog am ei phenwaig a gwelir y tri phennog ar arfbais y dref. Ceir Amgueddfa Forwrol yn yr hen eglwys. Wrth ddringo’r allt i fyny at Fynydd Nefyn edrychwch yn ôl ar yr olygfa ysblennydd o Faeau Nefyn a Phorthdinllaen. Bu’r ddau fae yn enwog am adeiladu llongau ac yn borthladdoedd llongau hwyliau prysur. Tri chopa’r Eifl sydd i’w gweld ar y chwith.


Taith Garn Bentyrch

Cychwyn a Gorffen: Maes parcio gyferbyn a Madryn Arms, Chwilog

Parcio: gyferbyn a Madryn Arms, Chwilog

Hyd y Daith: 14 milltir

Amser: 2 – 2½

Garn Bentyrch MapD

Dyma daith hamddenol gyda’r ffordd yn bur wastad trwy ganol Eifionydd, ‘y tawel gwmwd hwn’.Un nodwedd enwocaf yr ardal ydi’r Lôn Goed sy’n ymestyn i’r gogledd o Afonwen yng nghyffiniau Chwilog hyd at ardal Brynengan ar lethrau Mynydd Cennin. Plannwyd ei choed derw a ffawydd yn nechrau’r 19eg Ganrif i wasanaethu ffermydd stad Talhenbont, a phery hyd heddiw yn daith gerdded ddifyr. Ger fferm Betws Fawr byddwch yn croesi’r Lôn Goed am y tro cyntaf ac yn ymuno â Lôn Las Cymru (Taith 8) cyn i honno wahanu ac ymuno yn y man â Lon Eifion.