Eglwys Gwynhoedl

Eglwys Gwynhoedl

Bu’r eglwys hon yn fan lle canfyddai pererinion solas a heddwch ar hyd y canrifoedd. Ac yn wir mae llawer o bererinion modern ac ymwelwyr â Phen Llŷn yn mynd o’u ffordd i ymweld âg eglwys Sant Gwynhoedl. Mae teimlad o barhad o fewn y muriau hynafol hyn. Cydbletha’r gorffennol a’r presennol i greu naws sydd, rywsut, yn cyfoethogi pawb sy’n galw yno. Mae’r Ty hwn yn enghraifft gynnar o ymateb y Celtiaid i Dduw a’i arglwyddiaeth dros bob elfen o fywyd. Daethant yma yn gynnar yn y chweched ganrif gan greu Allor. O gwmpas yr allor hwn yr ymgartrefodd y teulu Cristnogol. Mae’r anedd ger afon, lle ceid dwr ar gyfer cynhaliaeth a bedyddio. Mae’n agos iawn i’r môr hefyd, gan fod y môr yn “draffordd’ naturiol i deithio rhwng yr ynysoedd yma, Iwerddon a’r Cyfandir. Roedd y Celtiaid yn deithwyr brwd yn ceisio gwybodaeth.

Gwynhoedl oedd un o seintiau cynharaf Llŷn. Yn yr eglwys mae carreg sy’n gysylltiedig â Gwynhoedl y credir iddi fod yn garreg fedd iddo. Canfyddwyd hi yn ystod y gwaith adnewyddu a wnaethpwyd i’r eglwys yn 1940, pan dynwyd plaster oddi ar y waliau. Yn wal ddeheuol yr eglwys y mae’r garreg i’w gweld, ac wedi ei thorri arni mae croes geltaidd. Gellir tybio fod y groes wedi ei phaentio ar y dechrau, ganfod olion lliw coch i’w gweld o hyd. Mae haneswyr amlwg wedi dyddio’r garreg i gyfnod o gwmpas 600 A.D.

gloch

Un arall o geririau’r blynyddoedd cynnar yw cloch sanctaidd o efydd. Mae’n dyddio yn ôl i’r chweched ganrif, a chaiff ei defnyddio mewn llyfrau safonol fel enghraifft gynnar o waith metel. Yn anffodus nid yw’r gloch yn yr eglwys bellach, ond gellir ei gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Cafodd ei thynnu a’i symud i Castell Madryn yn ystod y gwaith adnewyddu yma yn y G19, a daeth i’r fei unwaith eto yn yr ocsiwn ym madryn pan gafodd ei gwerthu am £44 2s. Ond mae castin manwl ohoni yma nawr, a gafodd ei gyflwyno i’r eglwys ychydig flynyddoedd yn ôl gan y diweddar Mr. W. J. Hemp, Cricieth – hynafiaethwr amlwg a chyfaill ffyddlon i’r eglwys.

Roedd yr adeilad gwreiddiol wedi ei wneud o blethwaith, mwd a choed, hyd cyfnod y Normaniaid pan godwyd adeilad o garreg. Syml iawn oedd yr adeilad cyntaf – , petryaloghirsgwar gyda ffenestr fechan uwch ben yr allor a drws yn y wal orllewinol. Yn ystod y canoloesoedd daeth allor Gwynhoedl yn boblogaidd iawn, ac yn un o’r llefydd pwysicaf ar ffordd y Pererinion i Ynys Enlli. Cae Eisteddfa yw enw’r cae gyferbyn hyd heddiw, lle’r eisteddai’r Pererinion i orffwys.

2

Gwnaeth y poblogrwydd yma hi’n anghenrheidiol i ymestyn yr eglwys, ac felly ychwanegwyd yr ystlys ddeheuol ac adeiladwyd y rhodfa. Hefyd gosodwyd ffenestr fawr unionsyth yn y wal ddwyreiniol, a ffenestr lai yn y wal ddeheuol, yn ogystal â chreu drws yn y wal ddeheuol fel y mae heddiw.

Un o ganlyniadau dyrchafiad y Tuduriaid i orsedd Lloegr oedd cyfnod o ymestyn eglwysi yng Nghymru, ac felly ceir yr un patrwm yn Llangwnnadl, pan ychwanegwyd ystlys ogleddol a rhodfa arall yn 1520. Unwaith eto adeiladwyd ffenestr fawr yn y wal ddwyreiniol, a ffenestr lai yn y wal ogleddol. Yn ogystal caewyd yr hen ddrws gorllewinol, a thynnwyd y ffenestr fechan yn wal ddwyreiniol yr adeilad gwreiddiol i’w gosod yn wal orllewinol yr ystlys ogleddol newydd. Mae olion ohoni i’w gweld o hyd yn y wal hon. Yn lle hon gosodwyd trydydd ffenestr unionsyth, oedd yn gydnaws â’r rhai yn yr ystlysau deheuol a gogleddol. Ymhen peth amser, daeth y rhan ogleddol yma o’r eglwys yn ysgol blwyfol fu’n weithredol dan y G19.

Yn 1850 adnewyddwyd yr eglwys unwaith eto dan gyfarwyddyd Henry Kennedy – y pensaer enwog. Canlyniad hyn oedd fod yr hen len y gangell wedi ei thynnu, oherwydd dylanwad yr Oxford Movement oedd yn pwysleisio y dylai’r allor fod yn weladwy o bob rhan o’r eglwys mae’n debyg. Parodd gwaith Kennedy am 100 mlynedd, ond yn 1940 roedd mewn dirfawr angen o waith atgyweirio. Gwnaethpwyd y rhain drwy haelioni Mrs. Gough, Nanhorol – dynes dduwiol a charedig a wnaeth gymaint dros lawer o eglwysi Llyn. Roedd ganddi gysylltiad agos â’r plwyf, gan ei bod yn ddisgynnydd uniongyrchol i deulu Lloyd o Nantgwnnadl, a elwir yn awr yn Plas Llangwnnadl. Gwnaethpwyd gwelliannau pellach yn 1963 pan adnewyddwyd yr eisteddleoedd a’r llawr ymysg pethau eraill. Cyflwynwyd rhodd werthfawr a diddorol i’r eglwys, sef giat newydd â chroes geltaidd wedi ei gweithio arni a’r arysgrifiad “Ty Dduw”. Cafodd ei gwneud a’i chyflwyno gan Mr. W. Jones, gof pentref Aberdaron. Gwnaethpwyd gwelliannau i’r to eto yn yr 1980au.

2a

Efallai mai nodwedd fwyaf diddorol yr eglwys yw’r arysgrifiadau lladin ar y pileri yn y rhodfa ogleddol. Mae un yn cofnodi fod Gwynhoedl wedi ei gladdu yma -

S GWYNHOEDL IACET HIC

a’r llall yn cofnodi adeiladu’r ystlys

HEC EDES EDIFICATA EST IN ANO DNT IHRO

Peth rhyfedd iawn yw’r defnydd o’r llythrennau IHRO y gynrychioli rhifolion Arabaidd yn y dyddiad – ffasiwn yn hanner cynta’r G16, a ymledodd i’r wlad hon o’r Cyfandir. A r piler hwn hefyd gwelir marc y saer maen. Cyfeiria carreg fedd wrth y drws at farwolaeth Griffith Griffiths, o Fethlehem, Gent, “who died in 1746 aged 93, he lived under nine sovreigns” Pair Sant Gwynhoedl yn dyst ffyddlon i Dduw ers dros 1400 mlynedd.

Mae’r bedyddfaen wedi ei cherfio’n ddiddorol, ar ei ochrau math o fleur-de lys, rhosyn â phum petal, tarian â chroes arni gyda pen wedi ei goroni a phen meitrog. Mae’r pennau yma’r arwyddocaol gan fod y pen wedi ei goroni yn ymdrech i ymdebygu’r brenin Harri VIII, ac mai pen Esgob Skeffington Bangor yw’r llall. Dyma wr oedd yn diddori yn fawr mewn adeiladau eglwysi, ac a allai’n hawdd fod yn gysylltiedig â pheth o’r adnewyddu yma yn y G16. Cymorth gweledol yw’r pennau yma i atgoffa pawb oedd yn dod i fewn i’r eglwys eu bod yn ddinasyddion i ddwy deyrnas. Mae’r coed yn y to yn G15 a G16, ac mae’n ddiddorol nodi fod bob un o dair rhan yr eglwys yr un lled. Dyddiwyd y llestri cymun i 1574, a defnyddir hwy o hyd.